Skip to main content

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar cadw.llyw.cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan rheoli cynnwys Cadw cadw.llyw.cymru

Rydyn ni wedi trio ein gorau i sicrhau bod y safle hwn yn hygyrch i bawb. Rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod y safle hwn yn cadw at ganllawiau WCAG 2.2 AA.

Cafodd y safle hwn ei adeiladu gan ddefnyddio priodweddau diweddaraf CSS a’r arwyddnodi HTML5 semantig sydd ar gael ar borwyr modern y we er mwyn sicrhau’r hygyrchedd gorau.

Cadw sy’n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech chi fod yn gallu:

  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb fod y testun yn diflannu o’r sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan ddefnyddio fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r wefan yn caniatáu i ddefnyddwyr newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nid yw’r testun yn ail-lifo mewn un golofn wrth i chi newid maint y ffenest bori
  • ni allwch addasu uchder y llinell na bylchiad y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o hen ddogfennau PDF yn hollol hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes sgrindeitlau ar ffrydiau fideo byw

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

  • ebost: Cadw@llyw.cymru
  • ffoniwch: 0300 0256000
  • cyfeiriad: Llywodraeth Cymru
    Ty Afon
    Heol Bedwas
    Caerffili
    CF83 8WT

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 15 diwrnod

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘dod o hyd i rywle i fynd’, ffoniwch 0300 0256000 neu e-bostiwch cadw@llyw.cymru am gyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:

  • ebost: Cadw@llyw.cymru
  • ffoniwch: 0300 0256000
  • cyfeiriad: Llywodraeth Cymru
    Ty Afon
    Heol Bedwas
    Caerffili
    CF83 8WT

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae system dolen glywed yn ein safleoedd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Darganfod sut i gysylltu â ni, dod o hyd i rywle i fynd:

  • ebost: Cadw@llyw.cymru
  • ffoniwch: 0300 0256000
  • cyfeiriad: Llywodraeth Cymru
    Ty Afon
    Heol Bedwas
    Caerffili
    CF83 8WT

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cadw wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn:

Problemau gyda’r testun

  • penawdau’n cael eu defnyddio’n anghywir
  • tagiau alt sy’n rhy hir/ testun alt ar goll
  • testun dolen ar goll
  • tablau sydd angen teitlau H1
  • dyblygu testun dolen.

Rydyn ni’n bwriado trwsio’r problemau testun erbyn mis Hydref 2020. Wrth gyhoeddi cynnwys newydd byddwn ni’n sicrhau bod testun dolen; tablau; tagiau alt a phenawdau’n cwrdd â safonau hygyrchedd.

Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Nid yw nifer o’n hen ddogfennau PDF yn cwrdd â safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi eu marcio i fod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn hanfodol i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Er enghraifft, mae PDFs yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau.

Erbyn mis Rhagfyr 2020, rydyn ni’n bwriadu un ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd y byddwn ni’n eu cyhoeddi’n cwrdd â safonau hygyrchedd.

Problemau â delweddau, fideos a sain

Nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw.

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw wedi’i eithrio rhag diwallu’r rheoliadau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion

Mae rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd i’w llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd.

Caiff ein ffurflenni eu hadeiladu a’u lletya gan feddalwedd trydydd parti (Wufoo) a’i lunio i edrych fel ein gwefan ni.

Rydyn ni wedi asesu’r gost o drwsio problemau llywio’r ffurflenni gan ddefnyddio bysellfwrdd ac rydyn ni’n credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghyfartal o ran rheoleiddio hygyrchedd.

Rydyn ni’n bwriadu datrys y problemau hyn pan fo’r system ffurflenni bresennol yn cael ei newid am wasanaeth mewnol cyflwyno ffurflenni Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan brawf y tro diwethaf ar 09 Ionawr 2024. Cynhaliwyd y prawf gan S8080 https://www.s8080.com

Cyfeiriad: Technium 1, Kings Road, Abertawe SA1 8P

Defnyddion ni Total Validator Scan; y fersiwn ddiweddaraf (14.0.0 ar hyn o bryd) i redeg sgan awtomataidd am bob gwall WGAG 2.2 AA.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni:

  • ebost: Cadw@llyw.cymru
  • ffoniwch: 0300 0256000
  • cyfeiriad: Llywodraeth Cymru, Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw. Caerdydd CF15 7QQ

Byddwn ni wedi mynd i’r afael â’r gwelliannau i’r problemau a amlygir yn y datganiad hwn erbyn mis Mawrth 2024.

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Awst 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 28 Ionawr 2024.

Datganiad Hygyrchedd ar aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan aelodaeth ac e-fasnach Cadw: aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru a aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru

Rydyn ni wedi trio ein gorau i sicrhau bod y safle hwn yn hygyrch i bawb. Rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod y safle hwn yn cadw at ganllawiau WCAG 2.2 AA.

Cafodd y safle hwn ei adeiladu gan ddefnyddio priodweddau diweddaraf CSS a’r arwyddnodi HTML5 semantig sydd ar gael ar borwyr modern y we er mwyn sicrhau’r hygyrchedd gorau.

Cadw sy’n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech chi fod yn gallu:

  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb fod y testun yn diflannu o’r sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan ddefnyddio fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver) 

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r wefan yn caniatáu i ddefnyddwyr newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nid yw’r testun yn ail-lifo mewn un golofn wrth i chi newid maint y ffenest bori
  • ni allwch addasu uchder y llinell na bylchiad y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o hen ddogfennau PDF yn hollol hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes sgrindeitlau ar ffrydiau fideo byw
  • mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd i’w llywio gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin.

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon.

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

ebost: Cadw@llyw.cymru

ffoniwch: 0300 0256000

cyfeiriad: 

Llywodraeth Cymru
Ty Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 15 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:

ebost: Cadw@llyw.cymru

ffoniwch: 0300 0256000

cyfeiriad: 

Llywodraeth Cymru
Ty Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd. Mae system dolen glywed yn ein safleoedd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Darganfod sut i gysylltu â ni, dod o hyd i rywle i fynd:

ebost: Cadw@llyw.cymru

ffoniwch: 0300 0256000

cyfeiriad: 

Llywodraeth Cymru
Ty Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cadw wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd yr eithriadau a restrir isod.

Problemau â delweddau, fideos a sain

Nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw.

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw wedi’i eithrio rhag diwallu’r rheoliadau hygyrchedd.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan brawf y tro diwethaf ar 09 Ionawr 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Spindogs Digital Agency:

https://www.spindogs.co.uk/

Cyfeiriad: Pascoe House,54 Bute Street Cardiff Bay, CF10 5AF.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni:

ebost: Cadw@llyw.cymru

ffoniwch: 0300 0256000

cyfeiriad: 

Llywodraeth Cymru
Ty Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Byddwn ni wedi mynd i’r afael â’r gwelliannau i’r problemau a amlygir yn y datganiad hwn erbyn mis Mawrth 2024.​​​​​​​

Paratowyd y datganiad hwn ar 25 Awst 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 28 Ionawr 2024.