Skip to main content

Ein gwerthoedd

Diogelu a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol yw sail ein gwaith i gyd. 

Gwnawn hyn drwy:

  • ddiogelu a rheoli’r 130 o henebion yn ein gofal 
  • nodi lleoedd o arwyddocâd hanesyddol arbennig a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol iddynt drwy’r system ddynodi 
  • cynnig cyngor ac arweiniad i benderfynwyr, perchenogion a deiliaid am reoli newid i asedau hanesyddol a hyrwyddo arfer cadwraeth da  
  • darparu grantiau i ddiogelu ac atgyweirio adeiladau hanesyddol a henebion cofrestredig, ac i brosiectau treftadaeth cymunedol
  • hyrwyddo adfywio nodedig a datblygu cynaliadwy drwy dreftadaeth
  • adolygu a gwella deddfwriaeth, polisi ac arweiniad i ddiogelu ein hamgylchedd hanesyddol.   

Mae gwarchod a diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn dibynnu ar amrywiaeth o bobl fedrus broffesiynol, gan gynnwys archeolegwyr, haneswyr pensaernïol, penseiri cadwraeth a chrefftwyr cadwraeth medrus. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol pob gweithiwr proffesiynol ym maes treftadaeth. Yn benodol, rydym yn gweithio gydag eraill i ddenu a hyfforddi newydd-ddyfodiaid i’r maes adeiladu treftadaeth. Y gweithlu hwn  a fydd yn helpu i sicrhau y gofalir am ein stoc o adeiladau traddodiadol (adeiladau cyn 1919) ar gyfer y dyfodol. 

Gwnawn hyn drwy:  

  • bartneriaeth sgiliau strategol gyda Historic England, Historic Environment Scotland a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu
  • gweithio gyda’r tri chorff treftadaeth cenedlaethol arall yng Nghymru i ddatblygu cynllun sgiliau sector.

Ewch i weld ein hadnodd addysgu: Dealltwriaeth o Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919) a Hanesyddol ar gyfer Cyrsiau Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i gael gwybod mwy am ein cyngor sgiliau diweddaraf.

Gellir adrodd stori Cymru drwy ein tirweddau a’n trefluniau ac yn yr adeiladau hanesyddol a’r henebion dirifedi sydd o’n cwmpas. Rydym yn helpu pobl i ddeall, gwerthfawrogi a mwynhau’r stori hon drwy wella mynediad arloesol i’r safleoedd yn ein gofal ac annog perchenogion safleoedd hanesyddol eraill i wneud yr un peth.  

Safleoedd Cadw

Rheolwn 130 eiddo hanesyddol ar ran Llywodraeth Cymru. 

Drwy ddarparu mynediad i’r safleoedd hyn a’u defnyddio i arddangos hanes Cymru, ein nod yw annog pobl i archwilio a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol.  

Mae mwyafrif ein safleoedd ar agor yn ystod oriau rhesymol ac yn rhad ac am ddim. Er nad oes staff yno, bydd paneli dehongli neu orsafoedd sain yn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch ymweliad. Yn aml, bydd tywyslyfr neu bamffled ar gael o wefan Cadw neu o siop leol.  

Ceir staff yn 28 o’r safleoedd mwy o faint, ac fel arfer mae tâl mynediad i’w dalu. Fel arfer, mae gan y safleoedd hyn fwy o arddangosfeydd yn ogystal â siop, ac mae gan rai gyfleusterau arlwyo. Defnyddir unrhyw incwm a wneir gan ein safleoedd drwy dâl mynediad neu weithgarwch masnachol i gefnogi gwaith ehangach Cadw. Mae ein ceidwaid yn ymfalchïo yn eu henebion ac yn fodlon helpu bob amser i wneud eich ymweliad yn fwy gwerth chweil.

Digwyddiadau, dysgu a gwirfoddoli

Ein safleoedd yw canolbwynt ein gwaith i wneud amgylchedd hanesyddol Cymru yn ddiddorol a dealladwy. Gwnawn hyn mewn llawer o ffyrdd gan gynnwys paneli gwybodaeth, cyflwyniadau sain a thywyslyfrau safle. 

Hefyd, trefnwn raglen fywiog o weithgareddau, perfformiadau, diwrnodau hanes byw ac arddangosiadau yn fodd llai ffurfiol o ddysgu. Darparwn gyfleoedd addysgol mwy strwythuredig hefyd – mae mynediad am ddim i bartïon ysgol a grwpiau addysg oedolion. Cynigiwn gyfleoedd i wirfoddoli yn safleoedd Cadw ac anogwn bobl i gymryd rhan mewn cynlluniau i wella mynediad at rannau eraill o’r amgylchedd hanesyddol. Gall y rhain amrywio o glirio rhedyn i agor lleoedd nad all y cyhoedd gael atynt fel arfer. 

Cynigia’r gweithgareddau hyn ystod eang o sgiliau bywyd sy’n gallu gwella iechyd a lles yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth mewn unrhyw oedran.   

Gwyddom fod yr amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu’n uniongyrchol a sylweddol at economi Cymru drwy:  

  • gyfrannu amcangyfrif o £963 miliwn y flwyddyn at economi Cymru (2016)
  • cefnogi dros 40,500 o swyddi drwy’r sector treftadaeth, twristiaeth treftadaeth a’r diwydiant adeiladu treftadaeth
  • cynnig profiad unigryw i’r twristiaid sy’n ymweld.

Mae hefyd yn gwneud cyfraniad llai cyffyrddadwy, ond yr un mor bwysig, at ansawdd a bywiogrwydd ein lleoedd byw a gweithio.  

Drwy annog cadwraeth a gwelliant y cymeriad hanesyddol sy’n gwneud pob dinas, tref a phentref yn unigryw, gallwn helpu i greu lleoedd nodedig sy’n denu mewnfuddsoddiad a phobl.

Gweithiwn gydag amrywiaeth o sefydliadau partner a rhwydweithiau, yn amrywio o sefydliadau cenedlaethol mawr i grwpiau cymunedol lleol. Dyma rai o’r grwpiau y gweithiwn gyda hwy i warchod a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol.