Skip to main content
Hysbysiad Ymwelwyr

Oherwydd y gwaith ailddatblygu parhaus, bydd llogi lleoliadau ac archebion masnach yn cael eu hystyried ond gall y safle fod yn destun cau munudau olaf.

Diolch.

Nid oes syndod fod ein safleoedd yn lleoliadau poblogaidd ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth. Maent wedi cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, gan gynnwys ffilmiau hirion, dramâu a rhaglenni teledu poblogaidd.

Mae sêr fel Johnny Depp, Robert Downey Jnr, Jeremy Irons, Tom Hiddleston, Julie Walters a Meg Ryan wedi ffilmio yn ein safleoedd, yn ogystal â Dr Who wrth gwrs, mae hwnnw wedi glanio o dro i dro.

Ffilmio yng Nghastell Coch / Filming at Castell Coch

Ffilmio a ffotograffiaeth anfasnachol

Os ydych yn unigolyn sydd eisiau ffilmio neu dynnu lluniau ffotograff yn ein safleoedd ar gyfer eich defnydd personol eich hun, mae croeso ichi wneud! Mwynhewch y golygfeydd! Dim ond talu’r tâl mynediad sydd raid, a rhannwch eich lluniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ninnau gael edmygu eich gwaith! Cofiwch ein hoffi ar Facebook a’n dilyn ar Twitter.

Mae ymwelwyr wedi’u gwahardd rhag tynnu lluniau at ddefnydd masnachol oni bai bod caniatâd wedi’i roi gan Cadw.

 

Ffilmio a ffotograffiaeth masnachol

Os ydych eisiau ffilmio neu dynnu lluniau ar safleoedd Cadw, llenwch y ffurflen gais hon, a bydd aelod o’n tîm masnachol yn cysylltu’n ôl gyda chi. Cofiwch fod yn rhaid cyflwyno’ch ffurflen 15 diwrnod o leiaf cyn diwrnod cyntaf y ffilmio, er mwyn inni gael digon o amser i ystyried a thrafod y trefniadau gyda chi.

Codir ffi am ffilmio a ffotograffiaeth masnachol, a gellir trafod y costau ar ôl inni dderbyn eich cais a’i ystyried.

Ewch i dudalennau’r safleoedd penodol i gael gwybodaeth gan gynnwys y trefniadau parcio, y cyfleusterau sydd yno a’r mynediad. Os cytunir i adael ichi ffilmio, cofiwch y bydd disgwyl ichi ddarparu copi o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, asesiad risg a chopi o’n Cytundeb Lleoliadau.

 

Materion cyfoes, newyddion a tywydd

Os hoffech ffilmio rhaglen materion cyfoes neu newyddion ar un o safleoedd Cadw, cysylltwch â thîm Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Cadw i drefnu drwy anfon neges e-bost i cadwmarketing@llyw.cymru.

Gofynnir ichi hefyd lenwi’r ffurflen ar-lein, a darparu copi inni o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a chytuno i’n Cytundeb Lleoliadau.

Er ein bod yn deall na fydd modd gwneud hyn bob amser, byddem yn falch petaech yn ceisio rhoi tridiau o leiaf o rybudd inni er mwyn inni allu gwneud trefniadau gyda’n ceidwaid.

Cofiwch fod rhai o’r safleoedd yn cau dros y gaeaf, ac efallai na fydd ffilmio neu ffotograffiaeth yn bosibl bryd hynny. Ewch i’r tudalennau diwrnodau allan i gael gwybod beth yw oriau agor y safleoedd.

Derek Brockway Castell Cydweli / Kidwelly Castle

 

Llyfrgell Ffotograffau

Mae asedau delwedd Cadw wrthi'n cael eu trosglwyddo i'r Lyfrgell Asedau Digidol Cymru/Wales, a weithredir gan Croeso Cymru fel rhan o frand ehangach Cymru/Wales.

Mae delweddau a gedwir yn y llyfrgell hon ar gael i'w lawrlwytho at ddibenion anfasnachol gyda'r nod penodol o hyrwyddo Cymru a/neu ein safleoedd. Byddai hyn yn cynnwys y defnydd canlynol:

  • hyrwyddo'r safleoedd fel atyniad i ymwelwyr
  • hyrwyddo'r ardal lle mae'r safle wedi'i leoli fel lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi.

Gan fod gan Cadw gylch gwaith penodol yn ymwneud â hyrwyddo treftadaeth Cymru, ac ymrwymiad i hyrwyddo addysg a dysgu gydol oes, rydym hefyd yn caniatáu defnyddio ein delweddau o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • defnyddio'r ddelwedd i ddarlunio cyhoeddiad hanesyddol neu addysgol (cylchgrawn neu lyfr) naill ai i ddangos swyddogaeth y safle fel cartref neu safle filwrol, neu i roi cyd-destun i gyfnod hanesyddol neu ffigur hanesyddol
  • defnyddio delwedd at ddiben addysgu naill ai ar lefel ysgol, addysg uwch neu ddysgu oedolion
  • defnyddio'r ddelwedd fel rhan o brosiect addysgol fel cyflwyniad, prosiect dosbarth, traethawd neu thesis.

Ni chaniateir gweithgarwch masnachol, megis gosod y delweddau ar nwyddau neu greu printiau i'w gwerthu.

Mae cofrestru gyda'r llyfrgell am ddim, a gall defnyddwyr lawrlwytho cymaint o ddelweddau ag sydd eu hangen arnynt yn uniongyrchol o'r safle. Mae defnydd, gan gynnwys sut i gredydu'r delweddau, yn cael ei lywodraethu gan delerau ac amodau’r safle.

Mae'r broses lanlwytho hon yn barhaus, ond mae wedi'i chwblhau i raddau helaeth. Fodd bynnag, os na allwch ddod o hyd i ddelwedd o safle, cysylltwch â Llyfrgell Ffotograffig Cadw ar cadwphotographiclibrary@llyw.cymru.

Noder nad ydym ar hyn o bryd yn cynnig printiau copi caled o'n delweddau. Fodd bynnag, gallwn ddarparu copïau electronig i'w hargraffu naill ai ar argraffydd cartref neu drwy wasanaeth neu giosg argraffu.

 

Ffilmio a ffotograffiaeth addysgol

Os ydych yn fyfyriwr a hoffai ffilmio neu dynnu lluniau yn ein safleoedd fel rhan o’ch cwrs, os yw’n gynhyrchiad bychan gyda phedwar neu lai o bobl yn rhan ohono, ac os yw’n cael ei gynnal yn ystod oriau agor arferol heb fod angen trefniadau arbennig, cysylltwch â cheidwad y safle i roi gwybod. Dim ond tâl mynediad fydd angen ei dalu, ac nid oes angen ichi lenwi unrhyw ffurflenni ychwanegol. Yr unig gyfarpar a ganiateir yw cyfarpar bychan sy’n cael ei ddefnyddio â llaw ac sy’n rhedeg ar fatri (heb geblau) a thrybeddau bychain, ni ellir addurno’r safle, a rhaid i’r cynhyrchiad beidio ag effeithio ar ymwelwyr cyffredin.

O ran cynyrchiadau mwy o faint gan fyfyrwyr sydd â mwy na phump yn y criw, llenwch ffurflen gais. Byddwn yn ystyried pob cais, ac os nad oes angen trefniadau arbennig byddwn yn ymdrechu i osgoi codi ffi ar wahân i’r tâl mynediad. Bydd angen ichi ddarparu asesiad risg a chopi o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eich ysgol, coleg neu brifysgol. Yn olaf, bydd angen i’ch ysgol, coleg neu brifysgol lofnodi ein Cytundeb Lleoliadau.

Os ydych yn meddwl trefnu ymweliad addysgol rhad ac am ddim, ewch i’r adran Addysg i lenwi’r ffurflen addysg. Os byddwch yn cadw at bolisïau mewnol yr ysgol neu’r darparwr hyfforddiant ar ffilmio a ffotograffiaeth, mae croeso ichi dynnu lluniau neu ffilmio i ddogfennu’r diwrnod, ac nid oes angen ichi lenwi unrhyw ffurflenni i gael caniatâd!

Mae rhai o’r safleoedd yn cau dros y gaeaf, ac efallai na fydd ffilmio neu ffotograffiaeth yn bosibl bryd hynny. Ewch i’r tudalennau diwrnodau allan i gael gwybod beth yw oriau agor y safleoedd.

Os bydd angen ichi wneud asesiad risg, meddyliwch am y pethau canlynol:

1. Gwybod beth yw’r peryglon O ran y gweithgareddau, prosesau, cyfarpar neu sylweddau a ddefnyddir, beth a allai eich anafu chi, eich cydweithwyr, y rhai sy’n cymryd rhan neu’r cyhoedd.

2. Pwy allai gael ei anafu? A yw’r perygl yn fwy i’ch cydweithwyr sy’n gosod y digwyddiad, y cyhoedd sy’n dod yno, pobl sy’n ei chael yn anodd symud, yr hwyluswyr sy’n rhedeg y digwyddiad, neu bobl eraill?

3. Gwerthuso’r risgiau Mae’r matrics graddio risgiau ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y dudalen hon, a gall eich helpu i werthuso pa mor debygol a difrifol yw’r risg.

4. Lliniaru’r risgiau Meddyliwch am y mesurau i’w cymryd i leihau’r risgiau – e.e. os oes ceblau’n mynd ar hyd y llawr, byddai rhoi matiau dros y ceblau’n lleihau’r risg o faglu a syrthio.

5. Ail-werthuso’r risgiau Ail-werthuswch y risgiau yng ngoleuni’r Mesurau lliniaru yr ydych wedi eu rhoi ar waith. Dylai’r sgôr fynd i lawr.