Skip to main content

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a Chytundeb Lleoliadau

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

Mae angen i fusnesau ac unigolion gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a allai effeithio ar drydydd partïon (aelodau’r cyhoedd, ymwelwyr, tresmaswyr, isgontractwyr ayyb a allai gael eu hanafu neu a allai ddifrodi’r eiddo).

Gofynnir i lawer o drefnwyr digwyddiadau sy’n ystyried cynnal digwyddiadau neu drefnu gweithgareddau megis ffilmio ar safleoedd Cadw ddarparu copi o’u tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

Mae gan y rhan fwyaf o fusnesau, elusennau, ysgolion a phrifysgolion Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i ymorol am y digwyddiadau dan sylw – a dim ond ar gyfer ein cofnodion yr ydym yn gofyn i’r trefnydd am gopi!

Os ydych yn unigolyn neu’n grŵp cymunedol sy’n trefnu digwyddiad ar un o safleoedd Cadw a chithau heb Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, gallwch brynu un ar y we yn gymharol rhad. Defnyddiwch wefannau i gymharu prisiau er mwyn cael y fargen orau ar eich cyfer chi.

Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, gwerth hyd at £5 miliwn, yn ofynnol ar gyfer pob digwyddiad ar safleoedd Cadw, ond os byddwch yn cynnal digwyddiad cymunedol sy’n bodloni ein meini prawf, pryd y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn talu ffioedd mynediad cyffredin i ymweld â’r heneb, ni fydd angen ichi ddarparu Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Os nad ydych yn siŵr, rydym yn argymell eich bod yn prynu yswiriant i ymorol am eich digwyddiad.

Cytundeb Lleoliadau

Gellir lawrlwytho’r cytundeb lleoliadau oddi ar y dudalen hon – ac rydym yn dymuno i’r rhan fwyaf o bobl sy’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar ein safleoedd lofnodi hwn.

Os oes gennych ymholiadau am ein cytundeb lleoliadau, cysylltwch â cadwcommercial@llyw.cymru i drafod o’r dechrau’n deg, cyn ichi wneud unrhyw drefniadau ar gyfer y digwyddiad, y ffilmio neu’r ffotograffiaeth. Gallwn holi ein tîm cyfreithiol, ond ni allwn addo y byddwn yn addasu’r cytundeb ar gyfer eich anghenion chi, a chofiwch y bydd materion cyfreithiol yn golygu bod angen mwy o amser i brosesu eich cais.