Skip to main content

Menter Cadw yw Ceidwaid Ifanc Cymru i annog pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o'u hamgylchedd hanesyddol a'i werthfawrogi. Mae'n agored i ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru. 

Mae'n darparu fframwaith er mwyn helpu i alluogi athrawon ac arweinwyr ieuenctid, i ddefnyddio eu henebion Cadw lleol - safleoedd treftadaeth, ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau dysgu, i greu 'Parth Dysgu' tu hwnt i'r ystafell ddosbarth neu leoliad clwb, yn eu cymunedau.

Mae'n ymwneud â chreu partneriaethau a gofodau sy'n ategu Cwricwlwm Cymru gyda dysgu trawsgwricwlaidd; annog y Ceidwaid Ifanc i werthfawrogi a pharchu eu henebion Cadw a'u hamgylchedd hanesyddol ehangach, gan greu ymdeimlad cryfach o berthyn - Cynefin.

Mabwysiadwch a chofleidiwch safle treftadaeth yn agos atoch chi, ac mi allech dderbyn tystysgrif gan Cadw yn cydnabod eich ysgol/grŵp fel Ceidwaid Ifanc Cymru o'ch heneb a chael eich cynnwys yn ein 'Oriel Ceidwaid Ifanc' ar ein gwefan. 

Dechreuwch drwy archwilio gyda'ch ysgol neu grŵp beth yw'r Amgylchedd Hanesyddol a pham ei fod yn bwysig – Gweler Ein blaenoriaethau | Cadw (llyw.cymru)