Skip to main content

Ein blaenoriaethau

 Mae'r amgylchedd hanesyddol yn adlewyrchiad ffisegol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru – etifeddiaeth werthfawr y mae'n rhaid i ni ofalu amdani a'i throsglwyddo i'n plant er mwyn iddynt ei charu, ei thrysori a'i mwynhau.

Mae'r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd ein hunaniaeth ddiwylliannol fel cenedl. Mae'n adrodd hanes lle Cymru yn y byd, o'i dechrau cynnar i'w rôl wrth wraidd datblygiad y byd modern.

Fodd bynnag, mae pwysigrwydd ein safleoedd hanesyddol yn ymestyn y tu hwnt i'w gwerth i gymdeithas a'n gwybodaeth am y gorffennol. Maent hefyd yn asedau sy'n cyfrannu at fywiogrwydd economaidd Cymru. Maent yn ysgogi twristiaeth ac yn gwneud Cymru'n lle unigryw i fuddsoddi ynddo a lle arbennig iawn i fyw a gweithio ynddo.

Mae'r amgylchedd hanesyddol yn ein hamgylchynu ac yn gwella ansawdd bywyd ac yn ychwanegu at natur unigryw ein hardal leol.

Mae'n cynnwys:

  • adeiladau hanesyddol
  • henebion hynafol, megis cestyll, abatai, meini hirion ac olion diwydiannol
  • safleoedd llongddrylliadau
  • safleoedd archeolegol
  • parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd

Mae'n hanfodol y caiff yr amgylchedd hanesyddol ei werthfawrogi, ei ddiogelu a'i wneud yn hygyrch ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol