Pwy ydyn ni
Mae Cadw yn cynnwys tua 250 o bobl yn gweithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Ceidwaid yw tua 100 o’n pobl — sy’n gweithio yn safleoedd henebion dan ein gofal – neu maent yn rhan o’r timau mewnol sy’n gwneud gwaith cadwraeth a chynnal a chadw yn ein safleoedd. Mae gennym staff arbenigol, gan gynnwys wardeniaid henebion maes ac arolygwyr adeiladau hanesyddol, henebion a pharciau a gerddi hanesyddol, sy’n gweithio dros Gymru gyfan.
Mae llawer o’n staff ‘ar hyd y lle’ yn rheolaidd ledled Cymru, yn ymweld â safleoedd, yn cwrdd â’r cyhoedd neu gynrychiolwyr awdurdodau lleol — ychydig iawn o waith Cadw y gellir ei wneud y tu ôl i ddesg yn unig.
Bwrdd gweithredu mewnol
Pennaeth Cadw yw Gwilym Hughes sy’n adrodd i Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg. Mae Pennaeth Cadw yn aelod o fwrdd gweithredu mewnol sy’n cefnogi, ei gynllun busnes a’i safonau, ac yn craffu arnynt ac yn eu monitro.
Strwythur Cadw
Mae gan Cadw chwe changen weithredol:
Hyrwyddwn y broses o werthfawrogi, gwarchod a diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru.
Gwnawn hyn drwy amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys:
- rhestru adeiladau, cofrestru henebion a pharciau a gerddi hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol
- darparu gwasanaethau cynghori statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio, esemptiadau eglwysig a chaniatâd adeiladau rhestredig
- helpu perchenogion i ofalu am eu henebion cofrestredig drwy roi cyngor, arweiniad a thrwy’r broses o ganiatáu henebion cofrestredig
- goruchwylio arolygon o adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig sydd mewn perygl a chynnig cyngor i helpu i wella eu cyflwr
- cynnig cyngor ac arweiniad i berchenogion a deiliaid adeiladau rhestredig am y ffordd orau o reoli newid
- cynnig grantiau i ddiogelu a gwella henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig
- nodi effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol a’r ffordd orau o addasu iddynt
- hyrwyddo a chefnogi hyfforddiant mewn sgiliau crefft cadwraeth
- gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer mannau addoli segur ac adeiladau cyhoeddus eraill
- cefnogi rhaglenni gweithgaredd sy’n amrywio o gloddiadau cymunedol i adfywio economaidd
- rhoi cymorth drwy grantiau i bartneriaid sy’n gweithio yn y sector treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys ymddiriedolaethau archeolegol Cymru a chyrff cadwraeth fel Cyfeillion Eglwysi Digyfaill ac Addoldai Cymru
- gwneud gwybodaeth ar gael yn rhwydd am safleoedd dynodedig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ar Cof Cymru — sef Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.
Datblygwn bolisi ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a’i reoli’n gynaliadwy, a hynny’n benodol i gefnogi deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.
Mae hyn yn cynnwys:
- gweithredu a gwerthuso Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
- datblygu canllawiau rheoli i gefnogi cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol
- gweithio gyda chydweithwyr cynllunio i integreiddio’r gwaith o reoli’r amgylchedd hanesyddol yn y system gynllunio
- cefnogi’r broses o gyflenwi busnes llywodraeth ar draws Cadw
Rydym yn cynnal, diogelu a rheoli 130 eiddo sydd dan ofal Cadw.
Mae Cadwraeth Cymru - ein tîm cadwraeth mewnol ein hunain - yn darparu gwasanaethau arbenigol i safonau manwl ledled Cymru. Ategir ein gwaith weithiau gan gontractwyr treftadaeth allanol arbenigol.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- rhaglenni cadwraeth pwysig ar sail gwybodaeth awdurdodol a gafwyd gan arolygiadau cyfnodol
- darparu gwasanaethau hanfodol i gadw safleoedd Cadw yn ddiogel a hygyrch
- ymgymryd â phrosiectau adeiladu pwysig i wella profiad yr ymwelydd.
- Mae hyn yn cyfrannu at ein cynaliadwyedd ariannol ac yn cefnogi cymunedau lleol.
Cynigiwn ymweliadau diogel, difyr a llawn ysbrydoliaeth i bobl drwy wneud ein safleoedd yn hygyrch i bawb:
- mae gennym dros 100 o geidwaid sy’n rheoli mynediad cyhoeddus diogel a dymunol i 28 safle Cadw sydd â staff
- rydym yn creu a hyrwyddo rhaglen o fwy na 400 o ddigwyddiadau a gwibdeithiau bob blwyddyn, gan gynnwys arddangosfeydd, gweithdai, gweithgareddau treftadaeth a chelfyddydau, teithiau, sgyrsiau, hanes byw a pherfformiadau byw
- cymerwn y storïau y tu ôl i safleoedd Cadw a’u dehongli i ysbrydoli ymwelwyr a darparu profiadau creadigol, cyffrous a diddorol sy’n procio’r meddwl
- hwyluswn ddysgu ac ymgysylltu â dysgwyr o bob oedran, ysgolion, gwirfoddolwyr, cynlluniau profiad gwaith a chymunedau lleol.
Rydym yn dod ag ymwelwyr i’n safleoedd, yn cyhoeddi’r holl waith y mae Cadw yn ei wneud ac yn cynhyrchu incwm a ail-fuddsoddwn yng ngwaith Cadw.
Gwnawn hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:
- digwyddiadau masnachu rhyngwladol, hurio ar gyfer priodasau, hurio ar gyfer ffilmio a hurio lleoliadau
- cynnig nwyddau o safon i’w gwerthu yn 28 o’n safleoedd
- marchnata aelodaeth ac ymweliadau drwy gyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu a’n gwefan
- cyhoeddi tywyslyfrau a llenyddiaeth arall yn Gymraeg a Saesneg yn ogystal â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg i’n safle mwyaf
Darparwn wasanaethau i staff ar draws Cadw:
- rydym yn gwneud yr achos dros gyllideb Cadw, yn paratoi adroddiadau ariannol, yn cynorthwyo i brosesu trafodion, ac yn rhoi cyngor ariannol
- sicrhawn lywodraethu priodol ar draws Cadw, darparwn ysgrifenyddiaeth i’r uwch dîm rheoli ac i’r bwrdd gweithredu mewnol, a sicrhawn fod y swyddfeydd yn ddiogel ac yn gweithredu’n effeithlon
- darparwn wasanaeth adnoddau dynol Cadw, gan gynnwys cynllunio, recriwtio, hyfforddi a datblygu’r gweithlu
- rydym yn cydlynu gweithdrefnau iechyd a diogelwch