Skip to main content

Gweithiwn gydag amrywiaeth o sefydliadau partner a rhwydweithiau, yn amrywio o sefydliadau cenedlaethol mawr i grwpiau cymunedol lleol.

Dyma rai o’r grwpiau y gweithiwn gyda hwy i warchod a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol:

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)                                     

Mae CBHC yn ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol, yn ei ddehongli ac yn gwneud gwybodaeth awdurdodol ar gael amdano. Mae hefyd yn cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac yn rheoli Cymru Hanesyddol, y porth a alluogwyd â map ar gyfer gwybodaeth amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Ymddiriedolaethau Archeolegol

Sylfaenwyd pedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru dros 40 mlynedd yn ôl i roi cyngor archeolegol cynhwysfawr i Gymru gyfan. Maent hefyd yn llunio ac yn cynnal y cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol i Gymru ar ran Gweinidogion Cymru.  

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd–Powys

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg–Gwent

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol

Mae Cadw, CBHC, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydweithio ac yn rhannu arbenigedd, er enghraifft, datblygu sgiliau, gwasanaeth cwsmeriaid a gweithgareddau masnachol.

Y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol

Sefydlodd Gweinidogion Cymru y fforwm lefel uchel hwn i gael trosolwg strategol ar faterion a chyfleoedd yn yr amgylchedd hanesyddol — gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, sgiliau a gwerth economaidd yr amgylchedd hanesyddol — a hyrwyddo dulliau cyffredin o fynd i’r afael â’r rhain.

Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prif sefydliadau yng Nghymru sydd â buddiannau amgylchedd hanesyddol.  

Y Fforwm Treftadaeth Adeiledig 

Mae llawer o waith Cadw yn ymwneud â chyswllt agos ag awdurdodau lleol Cymru, yn enwedig ar faterion rheoli datblygiad a chynllunio. Mae’r Fforwm Treftadaeth Adeiledig yn darparu rhwydwaith o swyddogion cadwraeth o 25 awdurdod cynllunio lleol Cymru (22 o gynghorau a’r 3 awdurdod Parc Cenedlaethol). 

Fforwm Mannau Addoli Cymru  

Mae llawer o fannau addoli hanesyddol yng Nghymru wedi cau neu dan fygythiad cau. Daw’r fforwm hwn ag enwadau a rhanddeiliaid eraill ynghyd i ddod o hyd i atebion newydd ar gyfer mannau addoli hanesyddol yn ogystal â rhannu gwybodaeth ac arfer gorau.