Credydau amser tempo yng Nghymru
Mae Cadw yn bartner sy’n cefnogi rhaglen Tempo Cymru Gyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn ei gwneud yn bosibl i ddeiliaid credydau Tempo gael mynediad am ddim i’n safleoedd treftadaeth Ymweliadau’r Cynllun Bancio Amser | Cadw (llyw.cymru) ac rydym yn gweithio gyda Tempo i ehangu’r rhwydwaith o gyfleoedd.
Mae rhaglen Tempo Cymru Gyfan yn creu cymuned ‘Credydau Amser’ genedlaethol y bwriedir iddi annog, cydnabod a gwobrwyo gwaith gwirfoddol ar draws y wlad. Mae’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau tlodi ar gymunedau ac yn ceisio ysgogi gweithredu cymdeithasol lleol drwy wirfoddoli yn ogystal â chynorthwyo ardaloedd i gyflawni eu nodau llesiant lleol, sy’n cynnwys annog ymddygiad cynaliadwy a defnydd effeithlon o adnoddau. O ganlyniad i’r prosiect, y gobaith yw y bydd cymunedau yng Nghymru yn cael budd o seilwaith sy’n hybu cymunedau â chysylltiadau gwell, drwy gydlyniant a chymorth, ac y bydd Cymru yn wlad fwy cyfartal ac iach.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 560 o grwpiau cymunedol wedi ymuno â rhwydwaith Credydau Amser Tempo ar draws Cymru, gan alluogi 4,222+ o wirfoddolwyr i gael eu cydnabod â thros 50,000 o Gredydau Amser Tempo.
I gael rhagor o wybodaeth am Tempo neu gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch ag un o Gydlynwyr Rhanbarthol Tempo:
- Morgan Slate
Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – mae’n gyfrifol am recriwtio grwpiau ennill, eu hyfforddi a’u cael i ymuno.
- Amy Cole
Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – De a Chanolbarth Cymru – mae’n gyfrifol am reoli grwpiau ennill, cynyddu capasiti a darparu cymorth.
- Emily Evans
Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – Gorllewin a Gogledd Cymru – mae’n gyfrifol am reoli grwpiau ennill, cynyddu capasiti a darparu cymorth.
- Jacob Mackenzie
Swyddog Cyswllt Partneriaid Cydnabod – mae’n gyfrifol am ddatblygu ‘Rhwydwaith Partneriaid Cydnabod Cymru Gyfan’.
- Prif Swyddfa
UNED 2, 58-62 HEOL ORLLEWINOL Y BONT-FAEN, CAERDYDD, CF5 5BS
029 2056 6132 O DDYDD LLUN I DDYDD GWENER