Skip to main content

Ymweliadau'r Cynllun Bancio Amser

Mynediad am ddim i safleoedd Cadw i wirdfoddolwyr Timebanking

Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â 2 chynllun bancio/credyd — Tempo Time Credits a Timebanking UK — Amser er mwyn cynyddu hygyrchedd henebion lleol a chenedlaethol ledled Cymru ar gyfer ei aelodau.

Mae'r cynllun yn galluogi'r rhai sy'n cefnogi eu cymunedau lleol trwy roi amser, i dreulio'u hamser yn ymweld â henebion sydd yng ngofal Cadw, gan gael profiad o’n safleoedd a'u hanes, a hynny am y tro cyntaf efallai.

Mae'r cynllun hwn ond yn cynnwys ymweliadau a gefnogir a gynhelir yn ystod yr wythnos, adeg tymor, ac ar benwythnosau ac adeg gwyliau yn amodol ar bwysau safleoedd. Mae'r holl ddigwyddiadau cyhoeddus ar safleoedd Cadw lle telir ffioedd wedi'u heithrio. Mae'r holl archebion yn amodol ar argaeledd a disgresiwn y safle. 

Sylwer, os gwelwch yn dda:

  • nid yw’r cynllun bancio amser yn berthnasol i safleoedd Cadw a Reolir ar y Cyd, sef Carreg Cennen, Dolwyddelan, Cerrig Margam na Chastell Weble 
  • mae'r cynllun hwn ond yn cynnwys ymweliadau a gefnogir a gynhelir yn ystod yr wythnos, adeg tymor, ac ar benwythnosau ac adeg gwyliau yn amodol ar bwysau safleoedd
  • mae'r holl ddigwyddiadau cyhoeddus ar safleoedd Cadw lle telir ffioedd wedi'u heithrio
  • mae'r holl archebion yn amodol ar argaeledd a disgresiwn y safle. 

Rhoddir mynediad am ddim i safleoedd a reolir gan Cadw (ac eithrio digwyddiadau arbennig lle gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol) i wirfoddolwyr Tempo Time Credit a Timebanking UK sydd wedi cael un cod taleb unigryw (gwerth 4 awr) y pen / pob ymweliad yn gyntaf, gan eu sefydliad perthnasol.

  • Gwirfoddolwyr Tempo Time Credit: bydd angen i chi glicio ar y ddolen Defnyddio Eich Credydau Amser Tempo ar wefan Tempo Time Credits a bydd eich Tempo Time Credits yn cael eu cymryd o'ch cyfrif. Yna bydd Tempo Time Credits yn anfon taleb cod unigryw atoch. Siaradwch â Rhaglen Tempo Cymru Gyfan ar 029 2056 6132 os ydych yn cael problemau
  • Gwirfoddolwyr Timebanking UK: I gael eich taleb cod unigryw bydd angen i chi gysylltu â Timebanking UK ar 01453 750952.

Sut i archebu tocyn:

  • sicrhewch eich bod wedi darllen, deall a chydymffurfio â'n telerau ac amodau
  • ffoniwch y safle  i wirio argaeledd y ar gyfer y dyddiad yr hoffech ymweld â’r safle; archebwch eich ymweliad o leiaf 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw ar gyfer teuluoedd unigol a 5 diwrnod ar gyfer grwpiau — llai na hyn ac er y byddwn yn gwneud ein gorau i brosesu eich archeb, ni allwn warantu ymweliad am ddim
  • dim ond ar ôl i chi gytuno ar ddyddiad ac amser gyda'r safle, cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein - sicrhewch fod eich codau talebau Tempo Time Credits / Timebanking UK yn barod i lenwi'r ffurflen hon (rhowch yr holl godau talebau sy'n cael eu defnyddio fesul grŵp)
  • rhaid i archebion gynnwys manylion cyswllt y person a fydd yn arwain y grŵp ar ddiwrnod yr ymweliad
  • bydd angen i chi ddangos eich cod taleb unigryw fel prawf o’ch statws i'r ceidwad ar y safle, i gyd-fynd â'ch archeb a galluogi mynediad.

Am fwy o fanylion am ein partneriaid a rhoi amser, gweler:

Beth am ffurfio grŵp Credyd Amser gyda'ch gilydd a mwynhau diwrnod allan cwbl wahanol, yn un o safleoedd Cadw sy’n ddifyr i’w archwilio? Os gwnewch hyn, gofynnwn i chi ffonio eich safle dewisol ymlaen llaw i sicrhau bod modd iddyn nhw estyn croeso i’ch grŵp.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gofnodi eich ymweliad, a fyddech cystal â thagio'ch postiadau/trydar gyda @cadwcymru neu #Cadw, a naill ai:

  • Tempo –Twitter @tempo_tweetsFacebook#TempoTimeCredits
  • TimebakingUk – Twitter @TimebankingUK  

Os byddwch yn anfon ffotograff o'ch diwrnod bancio amser atom yn un o safleoedd Cadw, gyda'ch caniatâd i Cadw ei ddefnyddio, i Cadw.education@llyw.cymru mae’n bosib y gallwn ei ddefnyddio wrth i ni hyrwyddo gwirfoddoli, Bancio amser ac ymweliadau credyd.