Skip to main content

Addasu I Newid Hinsawdd

Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd

Cynllun Addasu’r Sector

Yn Ebrill 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd genedlaethol er mwyn gweithredu’n gyflymach i’r newid hinsawdd. 

Mae hyn yn gofyn am fesurau i leihau nwyon tŷ gwydr drwy fabwysiadu mesurau fel arbedion ynni yn ogystal â pharatoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd. Er mwyn creu ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd o newid hinsawdd a’r angen i addasu, mae is-grŵp o’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol (HEG) wedi cyhoeddi Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector a’r newid hinsawdd.

Nod y cynllun hwn yw annog cydweithrediad a gweithredu ar draws pob sector er mwyn:

  • cynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r bygythiad a’r cyfleoedd i’r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid mewn tywydd a hinsawdd yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hir dymor
  • cynyddu ein gallu i ddeilio ag effeithiau newid hinsawdd drwy greu ymwybyddiaeth, meithrin sgiliau a datblygu dulliau i reoli effaith newid hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol
  • cryfhau ein gallu i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol drwy ein gwaith o addasu ac ymateb i’r peryglon, ein gwneud yn fwy abl i ymateb ac i leihau’r peryglon ac elwa ar y budd a ddaw o’r newidiadau.

Mae Cynllun Addasu'r Sector wedi'i anelu at lunwyr polisi a chynllunwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol ac academaidd. Mae gan bob un o'r sefydliadau hyn eu rhan i’w chwarae i ddatblygu a gweithredu'r camau a nodir yn y cynllun.

Mae'r cynllun hwn yn ychwanegu at ganfyddiadau adroddiad HEG sef A strategic approach for assessing and addressing the potential impacts of climate change on the historic environment of Wales yn ogystal â’r gweithrediadau strategol oedd wedi eu nodi yng nghynllun ymaddasu Llywodraeth Cymru I newid hinsawdd sef Ffyniant i bawb: Cymru sy’n effro i’r hinsawdd.

Fframwaith Monitro a Gwerthuso ac Adroddiadau Dros Dro o Weithgaredd  

Bydd y fframwaith monitro a gwerthuso’n galluogi Grwˆp yr Amgylchedd Hanesyddol a’i randdeiliaid i ddeall, monitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn camau gweithredu Cynllun Addasu’r Sector a gyhoeddwyd, a nodi bylchau a meysydd blaenoriaeth sydd angen mwy o sylw.
Bydd y broses yn digwydd ochr yn ochr â fframwaith monitro a gwerthuso cynllun addasu cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, er mwyn sicrhau prosesau adrodd cyson.

 

Adroddiadau Dros Dro

Bydd Adroddiadau Dros Dro o Weithgaredd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol, fel y nodir yn y fframwaith monitro a gwerthuso. Caiff y rhain eu defnyddio i helpu i lywio'r adroddiad monitro a gwerthuso allanol llawn a fydd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn 2024.