Skip to main content

Egwyddorion Cadwraeth

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Mae’n cynnwys llawer o nodweddion hanesyddol unigol sy’n cael eu cydnabod yn asedau hanesyddol. Mae asedau hanesyddol yn cynnwys adeiladau hanesyddol unigol a gweddillion archeolegol, gerddi a pharciau hanesyddol, trefluniau ac ardaloedd cadwraeth, tirweddau hanesyddol a Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae’r holl asedau hanesyddol hyn yn cyfrannu at gymeriad arbennig ein holl leoedd ac at ansawdd bywyd Cymreig. Hefyd mae’n adnodd penodol, anadnewyddadwy y dylem ei gynnal er lles ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.

Ystyr cadwraeth yw rheoli newid yn ofalus fel ein bod yn gwarchod yr hyn sy’n bwysig ac yn arbennig am ein hasedau hanesyddol. Wrth wneud penderfyniadau ynghylch newid, mae angen i ni ddeall beth sy’n arwyddocaol amdanynt, a beth yw effaith debygol unrhyw newidiadau yn debygol o fod.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym wedi pennu chwe egwyddor arweiniol ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol:

Mae a wnelo cadwraeth â sicrhau bod nodweddion arbennig ein hasedau hanesyddol yn cael eu diogelu, eu gwella, eu mwynhau a’u deall gan bawb yn awr ac yn y dyfodol. Dylai unrhyw newid i ased hanesyddol a’i nodweddion arbennig sicrhau buddiannau sy’n drech nag unrhyw niwed neu golled. Dylai’r buddiannau hynny ddiogelu a chynnal yr ased hanesyddol.

Mae gan asedau hanesyddol lawer o werthoedd all gyfrannu at eu harwyddocâd, sef:

  • eu holion ffisegol a’r adeiledd presennol
  • cofnodion darluniadol a dogfennau sy’n ein helpu i’w deall,
  • eu gallu i daflu goleuni ar agweddau ar y gorffennol a’n cysylltu ni â’r gorffennol
  • eu nodweddion o ran estheteg
  • eu gwerth i’r bobl sy’n uniaethu â nhw.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn rhoi natur unigryw, ystyr ac ansawdd i’r lleoedd rydym yn byw ynddynt. Mae’n ased cymdeithasol ac economaidd ac yn adnodd ar gyfer dysgu a mwynhau. Felly, rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb am sicrhau y gall pawb ei ddefnyddio, ei fwynhau a chael budd ohono, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn dibynnu ar gyfranogaeth wybodus a gweithgar. Bydd angen mynediad at wybodaeth arbenigol ac arbenigedd i ganfod yr hyn sy’n bwysig am asedau hanesyddol ac arwain y gwaith o’u rheoli. Hefyd, bydd angen i ni rannu’r hyn a ddysgwn fel ein bod yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth yn ehangach. Ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn datblygu, cynnal a throsglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gofalu am yr amgylchedd hanesyddol.

Anogwn berchnogion a rheolwyr i ofyn am gyngor wrth baratoi cynigion ar gyfer newid a disgwyliwn i awdurdodau cyhoeddus wneud penderfyniadau trwy ddefnyddio’u harbenigedd, profiad a barn mewn modd cyson a thryloyw. Dylai penderfyniadau ynghylch yr hyn y dylid ei wneud a’r ffordd o’i wneud ac a ddylid rhoi caniatâd ai peidio bob amser fod yn ddeallus ac wedi’u cyfiawnhau yn ofalus.

Yn ystod unrhyw brosiect cadwraeth, caiff llawer o wybodaeth ddefnyddiol ei dwyn ynghyd wrth fynd ati i asesu a deall yr ased hanesyddol. Mae hefyd yn bwysig cofnodi unrhyw wybodaeth a ddaw i’r fei yn ystod y broses newid. Mae sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn archif cyhoeddus yn golygu y gall gyfrannu at ddysgu a rennir yn y dyfodol.

Hefyd dylid cadw cofnodion y penderfyniadau a wneir. Dylai perchnogion a rheolwyr asedau hanesyddol fonitro a gwerthuso effaith unrhyw newidiadau, a defnyddio’u canfyddiadau i lywio penderfyniadau’r dyfodol. Lle bo newidiadau’n cynnwys colli rhan neu’r cyfan o’r ased hanesyddol, mae’n bwysig sicrhau y cynhelir ymchwiliad ac y cedwir cofnodion priodol, a bod y canlyniadau’n cael eu harchifo a’u rhyddhau.

Cyflawni’r Egwyddorion Cadwraeth

Er mwyn rheoli newid i asedau hanesyddol yn llwyddiannus, rhaid gwneud penderfyniadau ar sail dealltwriaeth gadarn o’r hyn sy’n bwysig ac yn arbennig amdanynt, ac effaith y newid arfaethedig. Wrth ystyried unrhyw newid, mae angen i ni ddechrau trwy sicrhau dealltwriaeth dda o arwyddocâd ein hased hanesyddol, a’r ystyr a’r gwerth mae yn ei olygu i ni.

Deall gwerthoedd treftadaeth ac asesu arwyddocâd

I’n helpu i ddod i ddealltwriaeth a rennir o rinweddau arbennig ein hasedau hanesyddol gallwn ystyried arwyddocâd ein gwerthoedd treftadaeth, pedwar ohonynt i gyd.

  • Gwerth tystiolaethol: mae gan bob ased hanesyddol stori unigryw i’w hadrodd. Mae’r adeiledd a’r manylion hanesyddol sy’n goroesi – uwchben neu o dan y ddaear – yn ein helpu i ddeall pryd a sut y gwnaed pob ased unigol, sut y’i defnyddiwyd a sut mae wedi newid gydag amser. Gall ffynonellau dogfennol a darluniadol gyfoethogi ein dealltwriaeth hefyd.
     
  • Gwerth hanesyddol: gall asedau hanesyddol daflu goleuni ar agweddau arbennig ar y gorffennol. Gallan nhw ein helpu ni i ddeall sut roedd pobl yn byw a gweithio, a deall y credoau a’r gwerthoedd oedd yn bwysig iddyn nhw. Gallant fod yn gysylltiedig â phobl neu ddigwyddiadau nodedig o’r gorffennol. Trwy atgofion a chysylltiadau, gall asedau hanesyddol gysylltu pobl o’r gorffennol, agweddau ar fywyd a digwyddiadau â’r presennol.
     
  • Gwerth esthetig: gallwn werthfawrogi asedau hanesyddol am eu rhinweddau gweledol, yn sgil crefftwaith a dylunio bwriadol, neu oherwydd effeithiau buddiol newidiadau dros amser. Mae chwaeth yn newid fel y mae asedau hanesyddol: gall cofnodion cynharach a dadansoddiad gofalus o’r hyn sy’n goroesi ein helpu i werthfawrogi’r gwerth esthetig.
     
  • Gwerth cymunedol: gall asedau hanesyddol gael eu trysori gan bobl a chymunedau sy’n gallu uniaethu â hwy, ac o bosibl gallant fod yn elfen bwysig o ran profiadau neu atgofion cyfunol. Gall asedau hanesyddol feddu ar werth economaidd yn ogystal â chymdeithasol gan fod yn ffynhonnell werthfawr o incwm a chyflogaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am egwyddorion cadwraeth ar gael yn Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy.