Skip to main content

Cymru — gwlad o straeon, mythau a chwedlau.

Bydd archwilio’r straeon, y mythau a’r chwedlau sydd wedi deillio o dirwedd Cymru ac sydd wedi’i llunio yn eich tywys i rai rhannau rhyfeddol o’r wlad hynafol hon. A gall safleoedd hanesyddol Cadw chwarae eu rhan hefyd. Byddwn yn rhoi sylw i bopeth – o’r Brenin Arthur i ddefodau’r Celtiaid, o’r Mabinogion i ddreigiau, o ddramâu enwog i ryddiaith sy’n llai amlwg.

Ni chafodd llawer o’r fytholeg gynnar ei chofnodi; yn hytrach, cafodd ei lledaenu ar lafar gan Dderwyddon Celtaidd. Ydych chi erioed wedi rhannu straeon â’ch ffrindiau? Ydyn nhw’n gallu eu hadrodd wedyn fel y gwnaethoch chi? Cafodd y straeon eu cofnodi’n nes ymlaen – mae testunau gwreiddiol megis Llyfr Taliesin, Llyfr Aneirin a Llyfr Coch Hergest ymhlith rhai o’r darnau o ryddiaith a’r straeon Cymraeg cynharaf sy’n taflu goleuni ar oes a fu.

Mae’n werth nodi bod y Mabinogion yn rhan o Lyfr Coch Hergest, sef un ar ddeg o straeon gwych sy’n cynnwys yr ymgyrch arwrol a ddisgrifir yn “Culhwch ac Olwen”, i enwi dim ond un. Allwch chi enwi’r lleill? Nid ydym yn gwybod popeth, ac mae yna lawer o fylchau y byddwch efallai am eu llenwi â’ch straeon eich hun. Gallech hyd yn oed eu troi’n gartwnau.

Yn ddiweddarach, mae awduron a beirdd o fri wedi cael eu hysbrydoli gan ein treftadaeth, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n wir amdanoch chi hefyd! Defnyddiodd Shakespeare safleoedd hanesyddol a straeon Cymreig – allwch chi weld y cysylltiadau? Ysgrifennodd Wordsworth am Abaty Tyndyrn. Am ba le hanesyddol y byddwch chi’n ysgrifennu? 

Ac yn ogystal â defnyddio’r tŷ cwch, defnyddiodd Dylan Thomas y tŷ haf yng Nghastell Talacharn hefyd i ysgrifennu. Ysgrifennodd ‘Portrait of the artist as a young dog’ yno. Ac mae yna lawer o awduron modern hefyd. Efallai y byddwch chi’n gallu darganfod eu straeon nhw.  

Yma, gydag amser, byddwn yn crynhoi rhai adnoddau a fydd yn eich helpu wrth i chi ddarganfod mwy. 

Rydym yn dechrau gyda Medrod a Gwalia, sef cath a llygoden ein castell ni, ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 1.