Archwiliwch waith Shakespeare gyda’ch cyd-ddisgyblion yn yr ysgol neu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau gartref, a hynny gyda’n dau adnodd newydd. Darganfyddwch stori ddramatig Macbeth ac ewch ati wedyn i berfformio golygfeydd o ddrama enwog Shakespeare. Dechreuwch drwy ddarllen Stori Macbeth a meddyliwch am yr heriau o geisio perfformio’r stori ar lwyfan o flaen cynulleidfa fyw; yn nyddiau Shakespeare, os nad oedden nhw’n hoffi’ch perfformiad, fe fyddan nhw’n eich heclo chi! Gallwch wedyn ddefnyddio ein hadnodd ‘Macbeth – golygfeydd i’w perfformio’ i ddod â rhai o olygfeydd enwocaf y ddrama yn fyw; dechreuwch drwy neilltuo rhannau a darllen eich llinellau. Oherwydd iddo gael ei ysgrifennu cannoedd o flynyddoedd yn ôl, gall gwaith Shakespeare fod yn anodd i’w ddarllen a’i ddeall gan fod ein hiaith wedi newid llawer. Mae gan ein hadnodd esboniadau defnyddiol o’r hyn y mae rhai o’r geiriau anoddach yn eu golygu a bydd yn eich helpu i ddeall beth mae’r cymeriadau’n ceisio ei ddweud wrth ei gilydd. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau archwilio stori ddramatig Macbeth a’ch bod wedi’ch ysbrydoli i ddarganfod mwy am Shakespeare. |
Shakespeare, bardd Cymreig?
Mae diwylliant, tirweddau a hanes cyfoethog a lliwgar Cymru yn chwarae rhan bwysig ym mywyd a gwaith William Shakespeare. Roedd ei nain ar ochr ei fam, Alys Griffin, yn Gymraes a bu Cymro arall, sef Thomas Jenkin, yn un o’i athrawon.
Roedd gan ei ddramâu hanesyddol, a ysgrifennwyd yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, dipyn o bropaganda ynddyn nhw, wrth bwysleisio manteision y frenhinlin Duduraidd ac erchylltra rhyfel gartref ac aflonyddwch sifil. Maen nhw’n dathlu sylfaenwyr y frenhinlin Duduraidd, a oedd yn ddisgynyddion i Duduriaid Penmynydd (Ynys Môn). Roedd gan Owain Tudur (taid Harri VII), a briododd weddw Harri V (Catherine o Valois), gysylltiadau teuluol â thywysogion brodorol Cymru, yn enwedig Owain Glyndŵr. Priododd ei fab, Edmwnd, â Margaret Beaufort (a adeiladodd gapel gerllaw Ffynnon Santes Gwenffrewi .
Cafodd ei mab, Harri VII, ei eni yng Nghastell Penfro a’i fagu gan ei ewythr, Iarll Penfro. Lansiodd Harri ei gyrch milwrol o arfordir Sir Benfro, a thrwy drechu Rhisiart III ym Mrwydr Maes Bosworth, rhoddodd ddiwedd ar 30 mlynedd o aflonyddwch sifil a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Cyfriniaeth Hudolus Cymru
Yn Oes Elisabeth, câi Cymru ei hystyried yn wlad o gyfriniaeth a diwylliant, a cheisiai deallusion bwysleisio eu tras neu gysylltiadau Cymreig. Mae hyn i’w weld yng nghymeriad Owain Glyndŵr yn y ddrama Henry IV. Dyma arweinydd y gwrthryfel Cymreig yn erbyn Harri, ac fe bortreadir Owain fel arwr rhamantaidd; dysgedig, carismatig ac yn llawn cyfriniaeth Gymreig.
Yn ddiddorol ddigon, mae ei ferch, Catrin, sy’n briod â’r Arglwydd Mortimer, yn siarad yn Henry IV, ond does dim deialog wedi’i nodi – yn hytrach, ceir y cyfarwyddyd llwyfan: “the lady speaks in Welsh”. Y gred yw bod yna sawl actor Cymreig ymysg y cwmni, a’u bod yn gallu siarad yn fyrfyfyr mewn iaith a oedd i fod yn ddirgelaidd ac yn egsotig.
Ymhlith y cymeriadau Cymreig eraill yn y dramâu mae Syr Hugh Evans, offeiriad ac athro ysgol, yn The Merry Wives of Windsor. Mae ei acen Gymreig gref wrth siarad Saesneg a Lladin, ac wrth ganu, yn rhoi rhywfaint o ddifyrrwch ac mae’n bosibl bod Shakespeare wedi seilio’r cymeriad ar ei athro. Ceir portread enwog yn Henry V o Frwydr Agincourt.
Er iddo wynebu byddin Ffrengig a oedd yn llawer mwy niferus na’i un ef, arweiniodd Harri ei fyddin i fuddugoliaeth annisgwyl. Roedd ganddo le i ddiolch i’r saethwyr bwa hir o Gymru am y llwyddiant hwn; daeth nifer ohonyn nhw ynghyd yn Nhretŵr pan alwyd hwy i’r frwydr.
Mae Fluellen (Llywelyn) yn un o dri chapten sy’n cynrychioli gwahanol genhedloedd ynys Prydain ar faes y gad yn Agincourt yn Henry V. Mae Fluellen ar yr un llaw yn stereoteip comig o Gymro; mae’n amleiriog ac yn ddifrifol, gydag acen Gymreig wedi’i hystumio er difyrrwch. Ond mae hefyd yn ffigwr dymunol, hyddysg, dewr a chymwys. Mae’n gymeriad sy’n dal sylw’r gynulleidfa ac yn llwyddo i ennill eu calonnau. Mae hyd yn oed y Brenin, a aned yn Sir Fynwy, yn datgan iddo: “for I am Welsh you know”.
Mae tirweddau Cymru hefyd yn ymddangos yn y dramâu. Mae’r rhan fwyaf o Cymbeline wedi’i lleoli yn Aberdaugleddau (“blessed Milford”) a’r ardal gyfagos, pan fo Innogen, merch Brenin y Brythoniaid, Cynfelyn, yn dianc wedi’i gwisgo fel bachgen.
Yn y ddrama Richard II, ar ôl glanio yn Harlech o Iwerddon, mae’r Brenin Rhisiart II yn mynd i Gastell y Fflint lle mae’n derbyn lloches. Mewn golygfa bwysig yn y ddrama, mae Rhisiart yn ildio ei goron i’w gefnder, Henry Bolingbroke, a ddaw’n Harri IV.
Mae safleoedd Cadw nid yn unig yn lleoliadau ar gyfer golygfeydd yn nramâu Shakespeare, maen nhw hefyd yn darparu lleoliadau atmosfferig ar gyfer cynyrchiadau gan grwpiau proffesiynol, addysgol a chymunedol. Castell Caerffili oedd lleoliad cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth.
Mae Castell y Fflint wedi bod yn lleoliad ar gyfer fflachdorf Richard II a pherfformiad o Macbeth gan Ysgol Gwynedd. Mae cestyll Dinbych a Rhuddlan hefyd wedi bod yn lleoliadau ar gyfer arddangosiadau ymladd cleddyf a brwydrau Shakespearaidd gan ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Mae’r rhain i gyd wedi bod yn rhan o raglen Dysgu Cadw.
Mae ymweliadau addysg gan grwpiau â safleoedd Cadw yn rhad ac am ddim, ac os hoffech chi ddefnyddio unrhyw un o’n safleoedd yn gefndir i’ch astudiaeth neu weithgareddau perfformio, yna cysylltwch â ni i drafod: cadw.education@llyw.cymru
Gall ein hadnoddau ar-lein hefyd gefnogi eich dysgu ac ysbrydoli rhagor o ymchwil.
Mae Janys yn artist llawrydd sydd wedi bod yn gweithio ym maes theatr, radio a theledu ers dros 30 mlynedd. Dechreuodd fel perfformiwr cyn symud ymlaen i weithio fel awdur a chyfarwyddwr. Ar hyn o bryd mae’n Gyd-gyfarwyddwr Cwmni Cynhyrchu TWO WOMEN, ac yn Asiant Creadigol gyda’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yng Nghymru. Cyn hynny, roedd yn Weithiwr Cyswllt ar gyfer Gwaith Ysgrifennu Newydd yn yr Octagon Theatre Bolton, yn Asesydd Theatr ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr, yn Ddramatwrg gyda National Theatre Wales, ac yn Artist Cyswllt yn y New Vic.
Mae brwdfrydedd Janys at waith Shakespeare yn ddi-ben-draw ac mae’n arbennig o hoff o weithio gyda phobl ifanc. Felly, mae wrth ei bodd pan fydd dau o’u hoff bethau’n dod ynghyd – fel sydd wedi digwydd wrth baratoi’r adnoddau CA3 hyn ar Shakespeare, a gomisiynwyd gan CADW. Cyn hyn, bu Janys yn arwain nifer o weithdai ar Shakespeare ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys prosiect arloesol o’r enw The Trial lle bu plant oed cynradd yn rhoi prif gymeriad Macbeth i sefyll ei brawf: ‘Macbeth – Dynladdiad neu Lofruddiaeth?’
Gallwch ddarllen mwy am waith Janys isod, a chysylltu â hi trwy ei gwefan: https://www.janyschambers.co.uk/