Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi
Arolwg
Man pererindod poblogaidd hyd heddiw
Bu’r ffynnon sanctaidd yng Ngwenffrewi yn denu pererinion ers 1115 o leiaf. Dywedir ei bod yn ffrydio o’r man lle daeth yr abad Cymreig Beuno Sant, yn y 7fed ganrif, â’i nith Gwenffrewi yn ôl i fywyd, ond mae’n debygol bod gan y stori hon darddiadau paganaidd, llawer hŷn, mewn gwirionedd. Mae’r capel ei hun yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif. Wedi’i osod yn y llechwedd, mae’n adeilad trawiadol ac anarferol, wedi’i addurno’n fanwl a’i adeiladu’n eithriadol o dda.
Ar y llawr gwaelod, mae dŵr y ffynnon yn ffrydio i fyny i fasn siâp seren o dan nenfwd cromennog coeth cyn llifo allan i bwll awyr agored diweddaraf, lle mae pererinion yn ymweld o hyd i ymdrochi yn ei dyfroedd oherwydd eu priodweddau iachau honedig.
Honnir mai hwn yw’r safle pererindod hynaf yr ymwelir yn barhaus ag ef ym Mhrydain; mae ar lwybr Taith Pererin Gogledd Cymru ar hyd Pen Llŷn i Ynys Enlli, sef ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’ chwedlonol.
Amseroedd agor
Bob dydd 9am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau am 2pm Ddydd Gwener y Groglith
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 25 a 26 Rhagfyr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Nid oes tâl mynediad i ymweld â'r capel. Mae'r capel ar glo. Casglwch yr allwedd oddi wrth y curadur yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd angen talu blaendal diogelwch y bydd modd ei ddychwelyd. |
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£2.00
|
Teulu |
£3.00
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Myfyrwyr a phlant dan 16 |
£1.00
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£1.00
|
Cyfleusterau
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer tua 6 char ac 1 lle parcio penodol i bobl anabl (tua 30 metr).
Ceir mynediad i'r capel drwy fynd i lawr rhes o risiau, ar hyd llwybr gwastad byr ac yna i fyny ychydig o risiau i'r prif ddrws.
Mae mynediad gwastad da i'r ffynnon.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Toiledau ar gael yn y ganolfan ynwelwyr.
Cyfarwyddiadau
Cod post CH8 7PN
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 07542 268722
E-bost
infowellshrine@rcdwxm.org.uk
Greenfield Street
Treffynnon
Sir y Fflint
CH8 7PN
www.stwinefridesshrine.org