Skip to main content

Arolwg

Crefft y Llychlynwyr 

Mae Maen Achwyfan yn groes Gristnogol gynnar arbennig o gain a saif 11 troedfedd/3.4m o uchder, gan ddyddio, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd y 10fed ganrif i goffau unigolyn neu ddigwyddiad. Wedi’i llunio o un garreg, mae’n cynnwys pen crwn sy’n debyg i siâp olwyn ac fe’i gorchuddiwyd â cherfiadau dyrys a dyluniadau cyd-weu mewn cyflwr da, ynghyd â ffigurau dynol ac anifeiliaid arddulliedig.

Am gofeb Gristnogol, mae ganddi wreiddiau Llychlynnaidd diddorol. Dylanwadwyd yn helaeth ar ei dyluniad gan bresenoldeb môr-ladron Llychlynnaidd yn y rhan hon o Gymru.


Amseroedd agor

Bob Dydd 10am - 4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
1m (1.6km) i’r Gor. Gog. Orll. o Chwitffordd, oddi ar yr A5151, 5m (8.1km) i’r Gog. Orll. o Dreffynnon.
Rheilffordd
Prestatyn 6m (9.7km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50