Abaty Dinas Basing
Hysbysiad i Ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Canolfan grefyddol ganoloesol sy’n denu pererinion o hyd
Yn rhan o rwydwaith o aneddiadau Sistersaidd a oedd ar wasgar ledled Cymru ar un adeg, sylfaenwyd Abaty Dinas Basing ym 1131 ac fe’i hail-fodelwyd yn helaeth yn y 13eg ganrif. Er mai adfail ydyw, mae’n rhoi syniad inni o fywyd y mynachod a alwai’r lle’n gartref. Rhan hynaf yr abaty yw’r cabidyldy o’r 12fed ganrif, gydag olion y meinciau lle eisteddai mynachod am eu darlleniadau dyddiol. Wrth ymyl hwnnw mae’r parlwr, yr unig le y câi’r mynachod mud siarad ynddo fel arfer. Yr ystafell fwyaf trawiadol sydd wedi goroesi yw neuadd fwyta’r mynachod.
Mae Dinas Basing yn safle crefyddol arwyddocaol o hyd. Hwn yw’r man cychwyn ar gyfer Taith Pererin Gogledd Cymru, sef llwybr cerdded pellter hir sy’n ymestyn yr holl ffordd i Enlli, ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’.
Prisiau
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.