Gwirfoddoli i Cadw
Mae Cadw’n cynnig cyfleoedd unigryw i wirfoddoli a chefnogi ein safleoedd hanesyddol.
- ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd?
- defnyddio a gwneud y gorau o’r sgiliau sydd gennych chi’n barod?
- fyddech chi’n hoffi ychwanegu at eich CV?
- cyfarfod â phobl newydd a gweithio ochr yn ochr â staff gwybodus a medrus?
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r rhain, yna dewch i wirfoddoli i Cadw. Ar hyn o bryd mae gennym ni swyddi gwag yn y canlynol:
Dywedodd gwirfoddolwraig hyn am ei phrofiad yn ddiweddar:
Rydw i wedi mwynhau cynnal y sgyrsiau yn fawr ac mae’n anodd gadael, ond mae’n rhaid i mi ganolbwyntio ar basio fy arholiadau o’r diwedd. Diolch o galon am y cyfle, rydw i’n bendant wedi dysgu llawer o’r profiad. Byddaf yn gweld eisiau dod i Gaerffili gan fy mod yn hoff iawn o’r castell erbyn hyn, ar ôl treulio cryn amser yn ymchwilio i’w hanes yn fwy nag y gwnes wrth dyfu i fyny. Dwi’n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn ac yn fawreddog, bob tro rydw i’n ei weld. Mae gallu cerdded tu mewn i’w waliau ac ysbrydoli eraill i deimlo mor frwdfrydig amdano â Cadw a minnau, wedi bod yn hyfryd.
Wrth wirfoddoli, byddwch yn cefnogi gwaith Cadw, dod yn rhan o dîm, dysgu sgiliau newydd, yn ogystal â rhannu’r sgiliau sydd gennych eisoes, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r ymrwymiad i wirfoddoli’n hyblyg, a gallwch ddewis faint o amser fyddech chi’n dewis ei roi.
Os ydych chi’n dymuno gwirfoddoli, cliciwch i’r dudalen safle o’ch dewis, am fanylion y cyfleodd gwirfoddoli sydd ar gael yn y safle hwnnw. Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein. Bydd y safle’n cysylltu â chi am drafodaeth bellach.
Os hoffech chi fod yn wirfoddolwr cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Gofrestru ar gyfer Gwirfoddolwyr Cadw i:Cadw.Gwirfoddoli@llyw.cymru
Mae cyfleoedd unigryw i wirfoddoli ym Mhlas Mawr, Conwy — y tŷ Elisabethaidd mwyaf cain ym Mhrydain!
Mae Plas Mawr yn symbol o oes lewyrchus, fywiog. Dyma gyfnod y Dadeni Dysg a Shakespeare, ac oes aur Plas Mawr. Roedd y perchennog, Robert Wynne, masnachwr dylanwadol, uchel ei barch, yn hoff iawn o urddas a gwychder. Pe byddai cyfoeth yn cael ei fesur yn ôl steil, yna roedd y Cymro bonheddig hwn, oedd wedi teithio’r byd, yn gyfoethog iawn, iawn!
Os hoffech chi helpu’r a chefnogi profiad ymwelwyr, llenwch y ffurflen gais.