Skip to main content

Gweithgarwch gwirfoddolwyr

Ar ôl cael eu croesawu gan y Ceidwaid, y Gwirfoddolwyr yw pwynt cyswllt nesaf pobl sy’n ymweld â  Phlas Mawr.

Mae’n bwysig iawn bod ymwelwyr yn cael eu croesawu mewn ffordd gyfeillgar a chroesawgar. Mae’r Gwirfoddolwyr yn gweithredu fel stiwardiaid ystafelloedd ac maen nhw’n egluro swyddogaeth yr amrywiol ystafelloedd a’r gwrthrychau sydd ynddyn nhw.  Mae’r Gwirfoddolwyr yn gallu cynnig pytiau o wybodaeth ddiddorol am y tŷ nad sydd ar y trac sain nac ar y taflenni gwybodaeth ac mae hyn yn help i gyfoethogi profiad yr ymwelydd.  Maen nhw’n cyfeirio ymwelwyr at ardaloedd y gallen nhw fod wedi eu methu ac yn cynnig swyddogaeth bwysig o ran diogelwch. Mae’r Gwirfoddolwyr yn cadw llygad barcud ar wrthrychau sydd yn yr ystafelloedd ac yn rhybuddio Ceidwaid ar unwaith os yw ymwelydd yn sâl, yn ddigon anffodus i gael damwain neu os oes ymwelydd neu grŵp yn ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o achosi difrod neu anfodlonrwydd i eraill, sy’n anarferol, diolch byth.

Mae rhai o’r Gwirfoddolwyr wedi ymuno â gweithgareddau fel y grŵp gwnïo.  Maen nhw wedi gwneud gwisgoedd i blant gael eu trio.  Mae hyn yn helpu plant i fwynhau’r profiad hyd yn oed yn fwy.  Mae rhai Gwirfoddolwyr yn cyflawni dyletswyddau ychwanegol sy’n helpu gyda’r ymweliadau addysgiadol.  Mae eu diddordeb a’u brwdfrydedd yn ysbrydoli’r disgyblion ac mae plant yn aml yn dychwelyd i’r safle gyda’u rhieni oherwydd eu bod wedi mwynhau cymaint.

Mantais y gweithgarwch hwn

Mae cael grŵp o wirfoddolwyr sydd mor ymroddgar ym Mhlas Mawr o fudd enfawr. Mae eu brwdfrydedd am y tŷ, ynghyd â’u hoffter o hanes yn helpu hyrwyddo hunaniaeth y safle a’i berthnasedd i ddiwylliant a hanes Cymru. Maen nhw’n ateb cwestiynau gan Ymwelwyr nid yn unig am y tŷ ond hefyd am lefydd eraill diddorol yr ardal.  Mae Ymwelwyr sy’n cael profiad positif yn aml yn dod ‘nôl i ymweld eto ac yn dweud wrth eu ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr am y safle, sy’n annog rhagor o ymwelwyr i’r ardal gan helpu’r economi leol.  Mae eu gwaith gyda grwpiau ysgolion yn helpu ysbrydoli plant i gymryd diddordeb mewn hanes, all ond fod yn fuddiol i gynnal diddordeb yn niwylliant a hanes Cymru. Mae’r adborth ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y taflenni sylwadau sydd yn y safle heb eu hail.

Cydnabyddiaeth arbennig

Mae Gwrifoddolwyr Plas Mawr yn rhan annatod o brofiad yr ymwelwyd.  Mae nifer wedi bod yn rhoi o’u hamser ers blynyddoedd i hyrwyddo Plas Mawr a diwylliant Cymru. Maen nhw wedi annog ffrindiau a chydnabod i wirfoddoli.  Er mai dim ond yn dymhorol mae’r tŷ ar agor, gall y safle fod yn eithriadol o oer yn gynnar ac yn hwyr yn y tymor, ond mae’r Gwirfoddolwyr y dal i ddod, gan roi o’u hamser am ddim ac ym mhob tywydd.