Skip to main content
Plas Mawr
Wedi ei gyhoeddi

Cafodd ein gwirfoddolwyr gwych ar safle Plas Mawr eu cydnabod heddiw (11 Mai) am eu cyfraniad i brofiad ymwelwyr yn ein plasty o oes y Tuduriaid yng Nghonwy, wrth iddynt gael Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth 2022.

Cydnabyddir yn eang mai’r Gwobrau hyn yw’r “Oscars ym maes Amgueddfeydd” a chafodd y seremoni fawreddog yn Llundain ei llywio gan yr amryddawn Iszi Lawrence, sy’n awdur, yn gomedïwr ac yn gyflwynydd hanes, a arweiniodd noson i ddathlu’r goreuon yn yr holl gategorïau a oedd yn adlewyrchu’r sector cyfan. 

Roedd y panel annibynnol o feirniaid, y mae pob un ohonynt yn flaenllaw ym maes amgueddfeydd, wedi cyfuno eu gwybodaeth a’u sgiliau craffu arbenigol i sicrhau bod y buddugwyr yn gwbl deilwng o’u gwobrau.

Ar draws y sector, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i helpu llawer o sefydliadau. Mae’r wobr ‘Gwirfoddolwyr y Flwyddyn’ yn dathlu eu holl waith caled a’r cyfraniad y maent wedi’i wneud o’u gwirfodd yn ystod heriau 2021.

Roedd cyrraedd y rhestr fer am eu cyfraniad i raglen addysg Cadw yn dipyn o gamp i’n gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr. Gyda’r staff, aethant ati’n sydyn i greu cynnwys ar gyfer gweithdai addysgol a oedd yn gorfod bod yn weithdai rhithiol oherwydd Covid – gweler Gwirfoddolwyr Plas Mawr yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr o fri | Cadw (llyw.cymru). Roedd cael Canmoliaeth Uchel yn destun boddhad mawr mewn cystadleuaeth a oedd mor gryf. Gwirfoddolwyr Plas Mawr oedd yr unig rai o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol!

Roedd yn noson hyfryd, ac roedd y gwirfoddolwyr a fynychodd y seremoni i gynrychioli eu cydwirfoddolwyr yn hapus i gael cydnabyddiaeth o’r fath am eu hymdrechion gwerthfawr.

Meddai un o’r gwirfoddolwyr, Angela Francis-Morris, wrth sôn am y profiad: 

'Roedd gallu mynychu’r seremoni a bod yn rhan o’r tîm a dderbyniodd y Wobr ar ran holl wirfoddolwyr Plas Mawr yn gymaint o anrhydedd. Roedd cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr o fri yn ddigon ynddo’i hun, ond roedd cael Canmoliaeth Uchel yn goron ar y cyfan. Roedd yn noson fendigedig, o’i dechrau i’w diwedd! Hoffwn ychwanegu hefyd fy mod wrth fy modd yn gwirfoddoli i Cadw ym Mhlas Mawr.'               

Bydd y dystysgrif Canmoliaeth Uchel yn awr yn cael ei gosod mewn lle amlwg yn ôl ar y safle. 

Meddai Sue Mason, Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cadw:

'Roedd y Wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn am holl ymdrechion gwych ein gwirfoddolwyr yn Cadw. Maent bob amser yn ymateb yn llwyddiannus i bob her y byddwn yn ei gosod iddynt ac maent bob amser yn gwneud mwy na’r disgwyl, mewn modd hwyliog, brwdfrydig, deallus a medrus.'

Allwn ni ddim diolch ddigon i’n gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr ac ar ein safleoedd eraill am y cyfan y maent yn ei wneud, o’r naill wythnos i’r llall, i hybu gwaith dysgu a phrofiad ymwelwyr gan rannu eu brwdfrydedd ag eraill. Rydym ni’n eu gwerthfawrogi, ond mae’n braf cael cydnabyddiaeth allanol ffurfiol mewn gwobrau y mae cymaint o fri yn perthyn iddynt ac mae’n braf iddynt weld cymaint y mae’r tîm ehangach yn gwerthfawrogi pob un ohonynt. Os hoffech chi fod yn rhan o’n tîm gwych o wirfoddolwyr, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Hoffem longyfarch pawb yn ein categori ni ac yn y categorïau eraill am eu hymdrechion rhagorol. I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau ac am yr holl gategorïau a’r holl gyfranogwyr, ewch i: 2022 Winners – Museums + Heritage Awards (museumsandheritage.com)