Skip to main content
Plas Mawr
Wedi ei gyhoeddi

Mae gwirfoddolwyr Plas Mawr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr o fri, sef Gwirfoddolwyr Amgueddfeydd a Threftadaeth y Flwyddyn.

Mae’r criw gwych o wirfoddolwyr yn Nhŷ Trefol Elisabethaidd Plas Mawr wedi gwneud mwy na’r disgwyl yn ystod y pandemig i sicrhau bod tŷ Plas Mawr yn parhau’n un o drysorau mwyaf croesawgar Cymru ym maes treftadaeth.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, a chafodd yr elfen addysgol sy’n perthyn fel rheol i’r profiad a gynigir ym Mhlas Mawr ei chyfyngu oherwydd y pandemig ac oherwydd nad oedd ysgolion yn gallu ymweld â’r lle. Fodd bynnag, daeth y tîm blaengar o wirfoddolwyr ymroddedig at ei gilydd gyda cheidwaid a thîm Dysgu Gydol Oes Cadw i helpu i greu ffilm a oedd yn dangos y teulu o oes y Tuduriaid yn paratoi ar gyfer parti, a buont yn serennu ynddi.

Roedd hynny’n golygu gwisgo’r dillad hardd a chywir o safbwynt hanesyddol y mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn eu creu yn eu sesiynau gwnïo, creu’r eitemau angenrheidiol ar gyfer ymolchi a glanhau dannedd, a mynd ati o ddifrif i ‘Baratoi ar gyfer Parti’. Roedd y gwaith yn cynnwys paratoi gwisg ar gyfer Robert Wynn a’i wraig Dorothy (sef ein gwirfoddolwyr ni, Clive a Jayne) a chymryd rhan yn y gwersi dawnsio hollbwysig.

Roedd y ffilm greadigol hon yn rhan o sesiynau rhithiol byw i ysgolion ledled Cymru, a gynhaliwyd gan y seren deledu enwog Llion Williams yn ystod pythefnos Gŵyl Hanes Cymru i Blant.

Oherwydd eu llwyddiant wrth greu’r profiad hwn, ac oherwydd eu hymrwymiad parhaus i Blas Mawr, cafodd y tîm ei enwebu ar gyfer y wobr o fri, sef Gwirfoddolwyr Amgueddfeydd a Threftadaeth y Flwyddyn.

Cafodd nifer enfawr o enwebiadau eu cyflwyno ar gyfer y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth, ac roedd y gystadleuaeth yn agos. Ond o blith yr holl enwebiadau a gafwyd o bob cwr o’r DU, lluniodd y beirniaid restr fer o chwech a oedd yn cynnwys tîm gwirfoddolwyr Plas Mawr. 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni fawreddog, y bydd modd i bobl ei mynychu yn y cnawd, nos Fercher 11 Mai yn Llundain.

Rydym yn teimlo’n falch iawn drostynt. Mae cyrraedd y rhestr fer yn dipyn o gamp ac yn dyst i’w sgiliau rhagorol a’u hymrwymiad. Rydym yn gobeithio y byddant yn cael profiad gwych, haeddiannol yn y seremoni ac rydym yn dymuno’n dda iddynt.

@MandHShow #MandHAwards