Skip to main content

Bwriad y llyfryn hwn yw rhoi cyflwyniad cyffredinol i'r cestyll sydd â chysylltiad agos ag Arglwyddi a Thywysogion Cymru.

Safleoedd eraill sy'n gysylltiedig ag Arglwyddi a Thywysogion Cymru:

Mae'r abaty Sistersaidd hwn, sy'n gangen o Abaty Hendy-gwyn ar Daf, yn dyddio o ganol y 12fed ganrif. Bu gwaith adeiladu mawn yma yn ystod y 13eg ganrif, gyda chefnogaeth y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth, ond ni chafodd erioed ei gwblhau. Yn ôl y sôn, dyma fan gorffwys olaf y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn dilyn ei farwolaeth yng Nghilmeri yn 1282.

Cyn adeiladu tref 'blanedig' Edward yn 1283, eglwys y plwyf Conwy, sef Eglwys y Santes Fair oedd eglwys wreiddiol Abaty Aberconwy.

Fe'i sefydlwyd gan fynachod Sistersaidd o Abaty Ystrad Fflur, a derbyniodd ei siarter gan y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yma y claddwyd y Tywysog Llywelyn a'i feibion. Yn dilyn ymosodiad Edward I ar Gymru a sefydlu Castell Conwy a’r dref furiog, gorfodwyd Abaty Aberconwy i symud 12 km i fyny Dyffryn Conwy i Faenan.

Abaty Aberconwy/Aberconwy Abbey

Rydym yn gwybod bod llys brenhinol brodorol wedi bodoli yn Abergwyngregyn, Gwynedd. Fe'i cofnodwyd fel un o brif breswylfeydd tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif. Fodd bynnag, mae ei union leoliad wedi bod yn destun dadl. 

Yn 1993, yn ystod y gwaith cloddio ger y castell tomen a beili o’r 11eg ganrif, cafwyd hyd i grochenwaith ac olion neuadd hirsgwar yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif. Datgelodd y gwaith cloddio fod y neuadd wedi cael ei haddasu’n ddiweddarach yn ystod ei hoes. Mae dogfennau o’r cyfnod yn nodi bod gwaith adeiladu wedi’i wneud ar neuadd a siambr llys Abergwyngregyn, sydd felly’n awgrymu y gellir bod wedi dod o hyd i'r gwreiddiol.

Mae'r monolith mawr gwenithfaen yng Nghilmeri yn nodi'r fan lle credir i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, tywysog brodorol olaf Cymru, gael ei ladd mewn sgarmes â'r Saeson yn 1282.

Er i ben y Tywysog Llywelyn gael ei gludo i’w arddangos yn Llundain, dywedir i'w ddilynwyr fynd â’i gorff i’w gladdu yn Abaty Cwm-hir. Roedd ei farwolaeth yn nodi diwedd rheolaeth annibynnol, frodorol yng Nghymru.

Cofeb i Llywelyn ap Gruffydd/Memorial to Llywelyn ap Gruffydd, Cilmeri

Saif Eglwys y Santes Fair yn Llanllugan gerllaw lleoliad gwreiddiol lleiandy Sistersaidd o’r 12fed ganrif, un o ddau yn unig a fodolai yng Nghymru’r canoloesoedd. Roedd Abaty Llanllugan yn gangen o Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng ac fe'i sefydlwyd gan Maredudd ap Robert, Arglwydd Cedewain.

Saif adfeilion plasty Llys Euryn ar lethrau Bryn Euryn, Llandrillo-yn-Rhos. Fe'i hadeiladwyd ar safle llys brenhinol Ednyfed Fychan, distain (prif gynghorwr) y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth.  Er bod y rhan fwyaf o'r gweddillion yn dyddio o gyfnod y Tuduriaid, mae’n bosibl ei fod wedi ymgorffori adeiladau cynharach; mae yno ddrws wedi'i ddyddio'n arddulliadol i'r 14eg ganrif.

Enw'r tŷ yn wreiddiol oedd Llys Maelgwn Gwynedd sydd wedi arwain at honiadau bod Llys Euryn yn sefyll ar safle llawer cynharach Llys Maelgwn Gwynedd o’r 6ed ganrif.

Llys Euryn

Llys Rhosyr, Ynys Môn, oedd un o lysoedd brenhinol Tywysog Llywelyn ab Iorwerth yn y 13eg ganrif. Datgelodd gwaith cloddio yma wal amgáu ac adeiladau mewnol, gan gynnwys neuadd a'r hyn y credir ei fod yn siambr frenhinol y Tywysog Llywelyn. 

Y llys oedd canolbwynt ystâd frenhinol y cwmwd (rhanbarth gweinyddol) ac yma y byddai'r Tywysog wedi aros pan fyddai’n ymweld â’r ardal. Fe'i cofnodwyd yn Brut y Tywysogion bod y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth yn Llys Rhosyr yn 1237 pan fu’n dyst i siarter yn rhoi tir ar gyfer y fynachlog ar Ynys Seiriol.

Cymerwyd Llys Rhosyr gan y Saeson yn dilyn marwolaeth y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282. Sefydlwyd Niwbwrch gerllaw yn fuan wedyn, gan ailgartrefu trigolion a symudwyd o Lan-faes er mwyn gwneud lle i gastell Edward I ym Miwmares. Gorchuddiodd storm dywod weddillion y llys yn 1300, ond fe'i hailddarganfuwyd gan archeolegydd lleol yn 1992. Mae’r neuadd a'r siambr frenhinol wedi’u hail-greu ac i’w gweld yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, ger Caerdydd.

Llys Rhosyr

Yma y treuliodd Llywelyn ap Gruffudd ei noson olaf yn fyw ym mis Rhagfyr 1282.

Yn ôl yr hanes cafodd y Tywysog Llywelyn ei alw i Aberedw, ond sylweddolodd mai trap ydoedd. Er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai’n cael ei ddilyn yn yr eira gofynnodd i'w of droi pedolau ei geffyl i wynebu o chwith. Cuddiodd Tywysog Llywelyn yn yr ogof dros nos ond fe'i lladdwyd drannoeth mewn gwrthdaro yng Nghilmeri.

Mae Penmon yn safle clas (mynachlog Gymreig ganoloesol gynnar) a sefydlwyd gan Sant Seiriol yn y 6ed ganrif. Gall fod y ffynnon sanctaidd ym Mhenmon yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Mae'r eglwys a saif yno heddiw yn dyddio o ganol y 12fed ganrif pan drowyd y clas yn Briordy Awstinaidd. Mae dilyniant deheuol adeiladau domestig y Priordy, a fyddai wedi cynnwys y neuadd fwyta a'r ystafelloedd cysgu, yn dal i sefyll hyd heddiw.

Ychydig i'r gogledd mae Ynys Seiriol, neu Ynys Lannog, sy'n eiddo preifat, ac a oedd hefyd yn gartref i fynachlog ganoloesol gynnar. Mae’r tŵr eglwys yn dyddio o'r 12fed ganrif ac fe saif, ynghyd ag adeiladau eraill, o fewn muriau. Mae addurn a phensaernïaeth Romanésg y safleoedd hyn o’r 12fed ganrif yn dyst i ffyniant Ynys Môn yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd hyn o ganlyniad i deyrnasiad llwyddiannus Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, a'i fab Owain Gwynedd, a nododd ddechrau Oes y Tywysogion.

Priordy Penmon/Penmon Priory

Saif y Senedd-dy ar y safle lle cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Senedd Cymru.

Yn 1400, dechreuodd Owain Glyndŵr, a oedd wedi cyhoeddi’i hun yn Dywysog Cymru newydd, wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr. Arweiniodd ryfel annibyniaeth gan gipio cestyll megis Harlech ac Aberystwyth. Roedd yn dyheu am wladwriaeth annibynnol, eglwys anibynnol a dwy brifysgol yng Nghymru. Yn 1404 croesawodd gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru i ffurfio Senedd ym Machynlleth. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chydnabod gan wledydd eraill, gwahoddwyd cynrychiolwyr o'r Alban, Ffrainc a Sbaen hefyd. Yma y coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Senedd-dy/Parliament House, Machynlleth

Eglwys y plwyf y Santes Fair yw'r oll sy'n weddill o'r priordy canoloesol. Credir iddo gael ei sefydlu’n wreiddiol fel clas (mynachlog Gymreig ganoloesol gynnar) yn y 6ed ganrif, a gall fod yn un o'r rhai hynaf yn y wlad.

Cafodd ei grybwyll gan yr hanesydd a'r teithiwr Gerallt Gymro ar ddechrau'r 13eg ganrif. Yn fuan wedi hynny daeth dan reolaeth yr urdd Awstinaidd, a hynny dan nawdd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth.

Tyddewi oedd esgobaeth ganoloesol fwyaf a phwysicaf Cymru. Credir mai yma sefydlodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, ei fynachlog yn y 6ed ganrif. Rhoddod yr ysgolhaig nodedig, yr Esgob Sulien, loches yma i Rys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth. Cyfarfu'r ddau â Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ar ei ddychweliad i Gymru wedi iddo fod yn llochesu yn Iwerddon. Dros weddillion Dewi Sant, cytunodd y ddau frenin uno, er mwyn gorchfygu eu gelynion cyffredin ym Mrwydr Mynydd Carn, 1081. 

Eglwys Gadeiriol Tyddewi/St Davids Cathedral

Er iddo gael ei sefydlu gan Arglwydd Eingl-Normanaidd yn wreiddiol, noddwr Cymreig Ystrad Fflur, yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, a sicrhaodd ei ffyniant. Claddwyd llawer o dywysogion y Deheubarth yno.

Yn Ystrad Fflur y lluniwyd llawysgrif wreiddiol Brut y Tywysogion ar ddiwedd y 13eg ganrif ac yno hefyd cafodd ei chyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddarach. Achosodd cefnogaeth Ystrad Fflur i Lywelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, wrthdaro â'r Brenin John a fu’n bygwth dinistrio'r Abaty yn 1212. Yn 1238, galwodd y tywysog Llywelyn holl dywysogion Cymru ynghyd i'r Abaty lle y bu iddynt dyngu llw o deyrngarwch i etifedd Llywelyn, Dafydd; symbol o undod i Gymru. Fodd bynnag, difrodwyd Ystrad Fflur yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn ddiweddarach, pan gafodd ei ddefnyddio fel barics gan y Brenin Harri IV a'i filwyr ar ddechrau'r 15fed ganrif.

Abaty Ystrad Fflur/Strata Florida Abbey

Sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth, daethpwyd â chanonau Sant Ioan i'r Abaty o Amiens yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yn niwedd y 1180au. Talyllychau oedd unig Abaty'r Urdd Ffrengig hon i'w sefydlu yng Nghymru yn y canol oesoedd. Er gwaethaf cefnogaeth ariannol yr Arglwydd Rhys, golygodd tlodi’r ardal ac anghydfod costus ag Abaty Hendy-gwyn ar Daf bod yn rhaid israddio'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Talyllychau. Parhaodd Tywysogion y Deheubarth i gefnogi'r Abaty, ond yn 1278 fe'i cymerwyd gan y Saeson yn dilyn goresgyniad Cymru gan Edward I. 

Abaty Talyllychau/Talley Abbey

Sefydlwyd yr abaty Sistersaidd hwn yn 1201 gan y Tywysog Madog ap Gruffudd Maelor, tywysog gogledd Powys. Claddwyd y Tywysog Madog ac aelodau eraill o deulu brenhinol gogledd Powys yma. Lluniwyd Brut y Tywysogion, a gofnododd farwolaeth y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, yn yr Abaty rhwng 1282 a 1332.

Ystyr yr enw Lladin Valle Crucis yw 'dyffryn y groes', sy'n cyfeirio at Biler Eliseg sy'n gorwedd ychydig i'r gogledd o'r Abaty. Mae'r golofn yn dal i’w gweld yno heddiw. Fe'i gosodwyd yno yn y nawfed ganrif gan Gyngen ap Cadell, Brenin canoloesol cynnar olaf Powys, i goffáu – a chofnodi drwy arysgrifio – ei hynafiaid.

Abaty Glyn y Groes/Valle Crucis Abbey

Ymhell cyn sefydlu'r abaty, dyma'r safle lle galwyd cyfarfod cenedlaethol mawreddog yn 940 er mwyn llunio a chofnodi cod o gyfreithiau Cymreig. Hyd heddiw, gelwir y cyfreithiau blaengar, brodorol hyn yn Gyfraith Hywel. Roedd llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio tan Statud Rhuddlan yn 1284 a'r Ddeddf Uno yn yr 16eg ganrif. Sefydlwyd Abaty Hendy-gwyn ar Daf yng nghanol y 12fed ganrif ac yn ddiweddarach daeth o dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog y Deheubarth. Roedd yn fam-fynachlog i nifer o abatai eraill Cymru, gan gynnwys Cwm-hir, Ystrad-Fflur, Aberconwy, Ystrad Marchell a Glyn y Groes.