Datod dirgelwch y groes Gristnogol gynnar hon
Wedi’i chodi yn hanner gyntaf y 9fed ganrif mewn safle amlwg ar garnedd gladdu o’r Oes Efydd, y cyfan sy’n weddill o’r groes hon yw’r goes isaf gron. Mae’r arysgrif sy’n addurno’r golofn wedi’i hindreulio ac nid ellir ei ddarllen bellach, ond gwyddom fod y gofeb blaen hon yn adrodd hanes epig am lywodraethwyr blaenorol Cymru.
Mae un ymadrodd yn cynnwys enwau llywodraethwyr olynol teyrnas Powys yn ystod yr 8fed a’r 9fed canrifoedd. Mae un arall yn datgelu bod y groes wedi’i chodi gan Cyngen er cof am ei hen dad-cu Eliseg, y dywedwyd ei fod wedi gyrru’r Saeson Eingl-Sacsonaidd allan o’r rhan hon o Gymru.
Credir bod yr arysgrif gofalus ei gyfansoddiad, sy’n cynnwys terminoleg gyfreithiol, wedi’i fwriadu i’w ddarllen yn uchel, i’w ddatgan i gynulleidfa. Ai yma efallai y byddai llywodraethwyr hynafol Powys yn cael eu penodi? Ai cofeb fuddugoliaeth yw hi, sy’n datgan perchenogaeth wleidyddol ar dir a enillwyd yn ôl o’r Saeson, neu bropaganda hanfodol ar adeg pan oedd y deyrnas dan fygythiad? Neu’r holl bethau hyn?
Cafodd abaty Glyn y Groes (‘Valle Crucis’) gerllaw ei enw o’r golofn; claddwyd teuluoedd llywodraethwyr gogledd Powys yn eglwys yr abaty. Ewch i Amgueddfa Llangollen i weld atgynhyrchiad o groes Piler Eliseg.
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mae lleoedd parcio ar gael yn Abaty Glyn y Groes gerllaw (tua 200 metr i ffwrdd).
Wedi'i leoli ar dir fferm tua 50 metr o ochr y ffordd.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50