Rydym yn gweithio i agor Abaty Glyn y Groes a chynnig profiad diogel a phleserus i ymwelwyr.
Diolch am eich amynedd, ac edrychwch ar ein tudalen I Ble Hoffech Chi Fynd am safle Cadw sy’n agos atoch chi.
Cofrestrwch i’n cylchlythyr am y wybodaeth ddiweddaraf am ein henebion a newyddion am ddigwyddiadau sydd ar ddod.
Abaty canoloesol mawreddog yn enwog am ei wleddoedd helaeth
Abaty cwbl Gymreig oedd Abaty Glyn y Groes o’r foment y cafodd ei sylfaenu ym 1201 gan y Tywysog Madog ap Gruffydd a ‘mynachod gwynion’ yr urdd Sistersaidd.
Cyfeiria ei enw Lladin (Valle Crucis) at Golofn Eliseg gerllaw o’r nawfed ganrif, a godwyd er gogoniant Cymro o bennaeth. Roedd gan y mynachod enwau fel Tudur a Hywel.
Mae’n ddigon posibl fod cydymdeimlad cartref felly’n egluro’r difrod a ddioddefwyd yn ystod rhyfeloedd brenin Lloegr Edward I a gwrthryfel Owain Glyndŵr. Ond yma o hyd mae un o’n habatai canoloesol gorau o ran awyrgylch a chyflwr.
Dechreuodd Glyn y Groes mewn llymder ond fe’i dathlwyd yn ddiweddarach gan feirdd am ei letygarwch helaeth – prydau bwyd yn cael eu gweini mewn llestri arian a chwrw yn ‘llifo fel afon’. Pan gafodd ei ddiddymu gan archddyfarniad brenhinol ym 1537, dim ond Abaty Tyndyrn oedd yn gyfoethocach yng Nghymru.
Ac fe gredwch chi hynny wrth gael eich cipolwg cyntaf ar flaen gorllewinol mawreddog eglwys yr abaty. Mewn mannau eraill ymhlith yr adfeilion rhamantaidd a beintiwyd gan Turner mae’r cabidyldy a’i gromen asennog, a’r unig bwll pysgod mynachaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru.
Dydd Iau–Llun 10am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau Dydd Mawrth a Mercher
Ar gau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£4.80
|
Teulu* |
£15.80
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr |
£3.40
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£4.60
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. |
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Gall 6 char barcio'n agos i'r fynedfa gydag 1 lle penodol i bobl anabl (tua 50 metr).
Mae'r rhan fwyaf o'r adfeilion wedi'u gosod â glaswellt. Mae llwybrau cadarn a gwastad ar y tir.
Ceir mynediad i gadeiriau olwy.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cod post LL20 8DD.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
ValleCrucisAbbey@llyw.cymru