Mae Cadw yn cynnig ymweliadau addysg hunan-dywys am ddim i safleoedd Cadw sydd â staff ble codir tâl fel arfer, i ystod eang o ddysgwyr.
darllen a sicrhau eich bod yn gallu cydymffurfio â'n telerau ac amodau, mae'r rhain yn cynghori ar bob grŵp cymwys a chyfyngiadau mynediad; (bydd angen i ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n dod â phlant o dan 18 oed ac oedolion ifanc gyflwyno Asesiad Risg — mae templed a sampl ar ein tudalen cynllunio eich ymweliad
ffonio'r safle i drefnu eich ymweliad o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw: 3 ar gyfer teuluoedd sengl sy’n addysgu eu plant yn y cartref — gyda llai na 5 diwrnod o rybudd, byddwn yn gwneud ein gorau i brosesu eich archeb ond ni allwn warantu ymweliad am ddim (mae pob archeb yn amodol ar argaeledd a disgresiwn y safle)
Mae ymweliadau addysgol a safleoedd Cadw am ddim
fodd bynnag, rydym yn croesawu cyfraniadau, gyda’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwaith cadwraeth, gan ganiatáu i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd hanesyddol. Mae Cadw’n gofalu am 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru gan gynnwys cestyll, abatai, gweithfeydd haearn, bryngaerau a siambrau claddu.
Byddai cyfraniad gwirfoddol o £25 fesul dosbarth yn cael ei groesawu’n fawr, i’n helpu i ofalu am safleoedd hanesyddol y genedl, ond wrth gwrs nid yw’n orfodol.
Angen dysgu mwy cyn eich ymweliad? Prynwch eich tywyslyfr Cadw yma i ddarganfod yr hanes y tu ôl i’ch dewis safle.