Skip to main content

Telerau ac amodau ar gyfer ymweliadau addysgol am ddim â safleoedd Cadw

Mae Cadw yn cynnig ymweliadau hunandywys am ddim â safleoedd Cadw sydd â staff, lle codir tâl fel arfer, er mwyn cynorthwyo ystod eang o ddysgwyr a’r sawl sy’n gweithio gyda theuluoedd ac unigolion ag anghenion cymhleth. 

Bydd pob cais i drefnu ymweliad yn amodol ar argaeledd ac yn cael ei ganiatáu yn ôl disgresiwn y safle. 

Rhaid i ysgolion, colegau a phrifysgolion ddarparu Asesiad Risg pan fyddant yn gwneud cais ar-lein, a chaiff hynny ei nodi yn ystod y broses drefnu. 

Nid yw’r cynllun hwn yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus ar wahân sy’n cael eu cynnal ar safleoedd Cadw ac y mae’n rhaid talu i fynd iddynt.  

Gwiriwch y meini prawf canlynol i weld a ydych yn gymwys i gael ymweliad hunandywys am ddim:

  • Rhaid i chi fod yn grŵp cymwys (gweler isod)
  • Rhaid i chi drefnu ymlaen llaw
  • Rhaid bod gan yr ymweliad ddiben dilys o safbwynt addysg/cymorth a bod ganddo amcanion sydd wedi’u diffinio’n glir, h.y. gweithgareddau dysgu strwythuredig sydd wedi’u cynllunio 
  • Rhaid i chi gyflwyno asesiad risg os ydych yn cynrychioli ysgol, coleg neu brifysgol
  • Rhaid i’r ymweliad gael ei arwain gan Arweinydd Grŵp, sydd wedi darllen a deall y telerau a’r amodau hyn ac a fydd yn sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio â’r gymhareb ofynnol o ran nifer yr arweinwyr i nifer y dysgwyr ar y safle bob amser.

Mae’n rhaid i grwpiau sy’n cynnwys plant dan 16 oed gael eu goruchwylio’n ddigonol gan oedolion bob amser tra byddant ar y safle. Bydd y gymhareb ofynnol o ran nifer yr oedolion i nifer y plant yn amrywio’n ôl oedran y plant.

Rhaid i ddysgwyr gael eu goruchwylio’n effeithiol drwy gydol yr ymweliad, gan gadw at y cymarebau canlynol o ran nifer yr oedolion i nifer y dysgwyr:

Oed 3–5yrs Dosbarth meithrin a derbyn  1:2
Oed 5–7yrs Ysgol gynradd - babanod (h.y. blwyddyn 1 a 2, 5–7 oed)  1:6
Oed 7–11yrs Ysgol gynradd - plant iau  1:10
Oed 11–14yrs Ysgol uwchradd isaf  1:10
Oed 14–16yrs Ysgol uwchradd  1:15

Nid oes cymarebau ar gyfer grŵp o ddysgwyr sy’n oedolion, ond rhaid bod rhywun wedi’i benodi yn arweinydd y grŵp.

Sylwer: Rhaid i bob grŵp ysgol gynnwys o leiaf un oedolyn sy’n gymwys i roi cymorth cyntaf.

Mae grwpiau cymwys yn cynnwys:

O ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig:

  • Ysgolion (meithrin, cynradd ac uwchradd) 
  • Grwpiau o brifysgolion neu golegau, sy’n astudio cyrsiau perthnasol
  • Athrawon a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, sy’n cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus
  • Teuluoedd sy’n addysgu eu plant yn y cartref, a grwpiau cydnabyddedig i deuluoedd sy’n addysgu eu plant yn y cartref 
  • Deiliaid Pasbort i Ddysgu dilysgan Brifysgol y Plant (rhaid eu bod yng nghwmni oedolyn sy’n talu)
  • Teuluoedd maeth – gyda Llythyr Awdurdodi Gweithredu dros Blant — Cynllun Mynediad Cadw i Deuluoedd Maeth
  • Grwpiau ysgol sydd ar ymweliad cyfnewid wedi’i drefnu â’r DU — pan fyddant yng nghwmni athrawon a disgyblion o’r ysgol sy’n eu lletya. Dylai ceisiadau gael eu gwneud gan yr ysgol neu’r sefydliad addysgol sy’n eu lletya
  • Sefydliadau â chylch gwaith addysgol, sy’n trefnu ymweliadau ar gyfer grwpiau o blant ag anghenion ychwanegol o ran cymorth, plant ag anghenion dysgu arbennig neu anableddau, plant dawnus a thalentog, a gwasanaethau mentora sy’n gysylltiedig â sefydliad dysgu ffurfiol
  • Grwpiau sydd â fisâu myfyrwyr ar gyfer y DU ac sy’n astudio cyrsiau llawn-amser perthnasol mewn sefydliad yn y DU am o leiaf un semester 
  • Grwpiau o ddysgwyr sy’n oedolion, o gyrsiau dysgu gydol oes awdurdodau lleol, Prifysgol y Drydedd Oes, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu ddarpariaeth debyg a hysbysebir 

O ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, ac ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol yn amodol ar argaeledd:

  • Grwpiau Sgowtiaid a Geidiaid (a grwpiau iau) a Brigâd y Bechgyn a’r Merched, sy’n gweithio i ennill bathodyn perthnasol 
  • Clybiau Bechgyn a Merched Cymru sy’n gwneud gweithgareddau treftadaeth 
  • Grwpiau ieuenctid a rhaglenni sgiliau/gwaith ar themâu sy’n gysylltiedig â gwaith — e.e. treftadaeth, twristiaeth, lletygarwch a sgiliau traddodiadol 
  • Y sawl sy’n cyflawni Gwobr Dug Caeredin yn rhan o grŵp – pan fydd yr ymweliad yn cael ei drefnu gan sefydliad noddi – ysgol, grŵp Sgowtiaid/Geidiaid neu grŵp tebyg
  • Grwpiau cadetiaid y Weinyddiaeth Amddiffyn 
  • Grwpiau Clybiau Archaeolegwyr Ifanc
  • Gwirfoddolwyr Credydau Amser Tempo – gyda chod unigryw Tempo 
  • Gwirfoddolwyr Cynlluniau Bancio Amser – gyda thalebau Cadw gan Timebanking UK 
  • Sefydliadau elusennol sy’n gweithredu yn yr awyr agored yn ystod gwyliau ac ar benwythnosau ac sy’n cynnig ymweliadau addysgol i grwpiau ag anghenion ychwanegol o ran cymorth

Y tu allan i’r cyfnodau prysuraf 

  • Timau gwasanaethau teulu awdurdodau lleol, ar gyfer unigolion, teuluoedd a/neu grwpiau sy’n gweithio i wella eu hamgylchiadau 
  • Elusennau adsefydlu, megis MIND a’r rhai sy’n cynorthwyo pobl â dementia
  • Asiantaethau sy’n ymwneud ag adsefydlu pobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol 
  • Asiantaethau sy’n cefnogi mentrau Dychwelyd i’r Gwaith
  • Gweithgareddau Cyfuno sy’n cefnogi’r uchod
  • Grwpiau wedi’u trefnu gan y Gymdeithas Gwyliau Teulu
  • Darparwyr iechyd sy’n cynorthwyo cleifion ag anghenion o ran eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol 
  • Oasis; Cyngor Ffoaduriaid Cymru; TGP Cymru; Sharedydd; Sharetawe; Homes4U; Y Groes Goch Brydeinig; Y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig; Alltudion ar Waith; Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru; Cymorth i Geiswyr Lloches Abertawe; Tai Pawb; Cymdeithasau Cymunedol Swdanaidd; Housing Justice Cymru; Y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru; BAWSO; yr holl Grwpiau Dinas Noddfa yng Nghymru; Bloom; Just Across; The Gap, Casnewydd; Grŵp Menywod sy’n ceisio Lloches.

Grwpiau nad ydynt yn gymwys i gael mynediad am ddim:

Ni fydd unrhyw grwpiau sy’n trefnu ymweliadau trwy weithredwr masnachol, neu nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a nodwyd uchod, yn gymwys i gael mynediad am ddim, gan gynnwys ymhlith eraill:

  • Gweithredwyr teithiau a bysiau
  • Trefnwyr gwyliau astudio, ysgolion haf, teithiau darlithiau, a rhaglenni tebyg a gaiff eu trefnu’n fasnachol rhwng sefydliadau addysgol, prifysgolion a sefydliadau gwyliau 
  • Trydydd partïon sy’n gwneud elw o drefnu ymweliadau ar gyfer grwpiau addysg 
  • Sefydliadau sy’n dod â grwpiau o oedolion ar ymweliadau hamdden, megis Sefydliad y Merched, grwpiau amwynder lleol a chymdeithasau myfyrwyr 
  • Grwpiau sy’n dymuno defnyddio darparwyr allanol megis arweinwyr teithiau, artistiaid a grwpiau theatr 
  • Grwpiau Saesneg fel Iaith Dramor ac ysgolion iaith
  • Gwasanaethau gwarchod plant, a chlybiau a gwersylloedd gwyliau.

Noder — Mae’n bosibl y gallai grwpiau o 15 neu fwy o ymwelwyr sy’n talu gyda’i gilydd, ond nad ydynt yn gymwys i gael ymweliad addysgol am ddim, fod yn gymwys i gael gostyngiad o 10%.

Arweinwyr grŵp:

  • Trwy drefnu ymweliad am ddim a gynorthwyir, mae arweinwyr grŵp yn cytuno i dderbyn y telerau a’r amodau ar gyfer cael mynediad.
  • Argymhellir eu bod yn cynnal ymweliad cynllunio am ddim ymlaen llaw er mwyn ymgyfarwyddo â’r safle. 
  • Rhaid iddynt gwblhau eu hasesiad risg eu hunain ar gyfer eu grŵp a’i gyflwyno yn ystod y broses drefnu.  
  • Yn achos ymweliadau addysgol, rhaid iddynt gael amcanion dysgu clir sy’n gysylltiedig â’r safle yr ymwelir ag ef, a gweithgareddau dysgu sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ymweliad ac sy’n seiliedig ar yr ymweliad.
  • Rhaid iddynt sicrhau bod y gymhareb gywir o ran nifer yr oedolion i nifer y plant yn cael ei chynnal drwy gydol yr ymweliad.
  • Rhaid iddynt gymryd cyfrifoldeb llawn am ymddygiad a lles y grŵp drwy gydol yr ymweliad. Rhaid ufuddhau i’r holl arwyddion a’r holl rybuddion diogelwch ar y safle, a dylid trin staff y safle gyda pharch gan ymateb yn briodol i unrhyw geisiadau a wneir ganddynt — mae staff safleoedd Cadw yn cadw’r hawl i ofyn i grwpiau adael y safle os bydd ymddygiad aelodau’r grŵp yn tarfu ar ymwelwyr eraill neu’n peryglu iechyd a diogelwch unrhyw berson neu bobl sydd ar y safle.
  • Rhaid iddynt sicrhau eu bod yn dod ag unrhyw feddyginiaeth y byddai ei hangen mewn argyfwng gyda nhw ar gyfer yr ymweliad, a bod y feddyginiaeth yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser. Mae pecyn cymorth cyntaf safonol ar gael ar y safle. 
  • Rhaid iddynt roi gwybod i staff y safle cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol am unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau.  
  • Mae’n bosibl y gofynnir iddynt ddarparu prawf o’u statws a manylion y sefydliad y maent yn perthyn iddo neu’r gweithgaredd sydd wedi’i gynllunio ar y safle.
  • Rhaid iddynt sicrhau bod y grŵp yn cyrraedd o fewn hanner awr i’r amser a drefnwyd ar gyfer yr ymweliad. Mae’n bosibl na fydd modd i grwpiau sy’n cyrraedd y tu allan i’r cyfnod hwnnw gael mynediad i’r safle.
  • Rhaid iddynt roi gwybod i’r safle o leiaf wythnos cyn yr ymweliad os bwriedir dod â mwy o oedolion i’r safle nag a gytunwyd/nodwyd yn wreiddiol wrth drefnu’r ymweliad; fel arall, mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw oedolion ychwanegol dalu’r tâl mynediad.
  • Rhaid iddynt gysylltu â’r safle yn uniongyrchol ac yn brydlon os bydd angen newid yr amser cyrraedd neu ganslo’r ymweliad, neu os oes rhywbeth nad oes modd ei osgoi yn golygu y bydd y grŵp yn hwyr yn cyrraedd.

Sylwer:

  • Os ydym yn credu am unrhyw reswm bod ymweliad wedi’i drefnu yn groes i’r telerau a’r amodau hyn, rydym yn cadw’r hawl i arfer ein disgresiwn absoliwt i wrthod mynediad am ddim ac i godi’r tâl mynediad arferol yn llawn.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch yr asesiad risg, yn rhan o’n proses archwilio.
  • Byddwn yn gwrthod mynediad i unrhyw grŵp neu sefydliad y gwelir ei fod yn gweithredu’n groes i’r telerau hyn, ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei atal rhag defnyddio’r cynllun yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y byddwn yn cau rhan o’r safle neu’r safle cyfan ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch, megis mewn tywydd garw.

Os nad ydych yn siŵr, ar ôl darllen y telerau a’r amodau hyn, a yw eich grŵp yn gymwys i gael ymweliad am ddim, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni: blwch post Addysg Cadw.