Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cynllunio eich ymweliad addysg

Mae Cadw wedi ymrwymo i groesawu Ymweliadau Addysgol i'n safleoedd, ond rydym yn disgwyl i'r rhain gael eu cynnal mewn ffordd ddiogel a gwybodus – Asesiad Risg.

Cyn ymweld ag un o'n henebion fel rhan o'ch ymweliad addysgol, argymhellir y dylech edrych ar dudalen y safle penodol ar wefan Cadw. Mae hyn wedi'i ddatblygu i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth o nodwedd unigryw'r safle a'r peryglon a allai fodoli. Bydd hyn yn eich helpu i lunio eich asesiad risg a chofnodi sut rydych chi'n bwriadu cadw eich grŵp yn ddiogel mewn amgylchedd hanesyddol.

Mae Cadw yn cynnig ymweliadau arolygu / ymgyfarwyddo am ddim ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r athro / asesydd risg fynychu'r safle cyn yr ymweliad addysgol er mwyn cynllunio gweithgareddau dysgu a chynorthwyo gyda llunio asesiad risg eich ymweliad addysgol, yn barod i'w anfon i EVOLVE (lle bo hynny'n berthnasol) a’i anfon ar wahân i Cadw. Byddem yn eich annog yn daer i fanteisio ar yr ymweliadau hyn cyn dod â grŵp i’r safle.

Bydd staff Cadw ar y safle yn hapus i rannu eu gwybodaeth am y safle gydag athrawon yn ystod ymweliadau ymgyfarwyddo, sydd hefyd yn cynnig y cyfle i brynu arweinlyfr ac adnoddau eraill. At hynny, cofiwch bori drwy’r tudalennau unigol ar gyfer safleoedd, sy’n rhoi gwybodaeth am gyfleusterau a threfn safleoedd ac unrhyw beryglon sydd yno. Bydd y rhain yn wirioneddol ddefnyddiol o safbwynt eich helpu i gynllunio taith ddiogel. Gwiriwch gyda'r safle bod y cyfleusterau'n ddigonol ar gyfer eich anghenion cyn archebu eich ymweliad. Mae darpariaeth toiledau a mynediad i'r anabl mewn rhai henebion yn gyfyngedig. Hefyd, ychydig iawn o gysgod sydd ar gael ar rhai safleoedd ac mae'r ddaear yn aml yn anwastad - felly gwnewch yn siŵr bod pawb yn y grŵp yn dod â dillad sy’n dal dŵr ac yn gwisgo esgidiau addas.

Asesiadau Risg

Mae athrawon ac arweinwyr grŵp yn gyfrifol am gynnal asesiadau risg cyn yr ymweliad, yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan awdurdodau addysg lleol. Os bwriedir archebu nifer o ymweliadau safle, dim ond un asesiad risg sy'n ofynnol gan Cadw, cyn belled â bod amgylchiadau'r ymweliadau yn debyg e.e. maint y grŵp, cludiant i'r safle ac ati.

Mae gofyn i bob ysgol ddatblygu a diweddaru asesiadau risg addysgol, felly dylai asesiadau o’r fath fod wedi’u datblygu eisoes ar gyfer eich sefydliad ac mae’n bosibl y bydd y rheini yn ddigonol i’w hanfon yn rhan o broses archebu Cadw. Fodd bynnag, i’r sawl nad oes ganddynt unrhyw asesiadau risg addysgol ar hyn o bryd neu sydd am wneud eu hasesiadau risg addysgol presennol yn fwy perthnasol neu’n fwy trylwyr, rydym wedi atodi templed isod i’ch cynorthwyo i wneud hynny.

Dyma rai o'r peryglon y byddem yn disgwyl eu gweld yn cael eu hystyried a'u cynnwys o fewn eich Asesiad Risg, o ran yr elfen ymweliad safle:

  • teithio y ôl a blaen i'r heneb (bws/cerdded)
  • diogelu
  • cymorth cyntaf
  • rheoli meddyginiaethau ac anghenion meddygol
  • rheoli ymddygiad ar y safle (dianc, gwrthdaro ag eraill)
  • tywydd - haul, rhew, glaw
  • disgyblion ar goll
  • rheoli disgyblion mewn henebion hanesyddol – llithro a baglu, cerdded ar waliau uchel, grisiau serth anwastad, tyrau, ardaloedd golau gwan
  • cyswllt ag anifeiliaid (adar, cŵn) – brathiadau, pigiadau, cyswllt â charthion adar ac anifeiliaid
  • ymgymryd ag unrhyw weithgareddau a gynlluniwyd ar y safle.

Ar ôl ystyried yr uchod os oes gennych ymholiadau penodol o hyd ynglŷn â'ch Asesiad Risg ar gyfer Cadw, anfonwch e-bost at Cadw.RAMsSubmission@gov.wales

Bathodyn / ffurflen 'Darparwr Gweithgareddau Addysgol' Dysgu y tu allan i'r Ystafell Ddosbarth (LOtC)

Efallai y bydd eich protocol Ymweliadau Awyr Agored yn gofyn i chi wirio a oes gan Ddarparwyr Gweithgareddau fathodyn Dysgu y tu allan i'r Ystafell Ddosbarth neu’n ei gwneud yn ofynnol iddynt lenwi ffurflen. Nid yw Cadw yn 'Ddarparwr Gweithgareddau Addysgol' yn yr ystyr hwn gan fod ein cynnig ymweliadau yn hunan-arweiniol (wedi'i gadarnhau gyda Dysgu y tu allan i'r Ystafell Ddosbarth). Felly, nodwch na fyddwn yn cwblhau unrhyw ffurflenni sy'n ymwneud â hyn. Ond ni ddylai hyn atal eich ymweliad. Gyda golwg ar gwestiynau perthnasol, gallwch fod yn sicr fel asiantaeth o fewn Llywodraeth Cymru: Rydym yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data a GDPR; Rydym yn hunan-yswirio; mae gennym Bolisïau a mesurau rheoli Iechyd, Diogelwch ac Argyfwng ar gyfer ein safleoedd; ac mae gennym fesurau llym gyda golwg ar fesurau rheoli Adnoddau Dynol a fetio staff.  

Gwybodaeth bellach

Mae’r ardal Dysgu a’r dudalen Adnoddau ar y wefan hon yn fan cychwyn da wrth gynllunio gweithgareddau eich ymweliad. Ceir ystod eang o ddeunyddiau y gallwch eu defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad, sy’n cynnwys adnoddau’n ymwneud â’r cwricwlwm, a fydd wrth iddynt gael eu hehangu gydag amser yn hybu’r Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, llythrennedd digidol a mwy.

Weithiau bydd tywydd gwael yn golygu bod ein safleoedd yn gorfod cau ar fyr rybudd. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ond nid yw’n bosibl rhoi rhybudd ymlaen llaw i athrawon ar yr adegau prin hynny. Cadwch olwg ar Hafan | Cadw (llyw.cymru) ac ar y tudalennau unigol ar gyfer safleoedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fynediad. Mae’n bosibl hefyd y byddwch am gysylltu â’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol Twitter / YouTube / Instagram / Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf. A gallwch gofrestru i gael ein llythyr newyddion hefyd.

Cliciwch yma i weld y canllawiau llawn ynghylch ymweliadau addysgol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn yr adran hon