Is-ddeddfwriaeth
Yn ystod y broses gydgrynhoi, cafodd is-ddeddfwriaeth sefydledig ei hymgorffori yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ('Deddf 2023') er mwyn gallu dod o hyd i gymaint o'r gyfraith berthnasol ar bwnc â phosibl yn yr un lle. Fodd bynnag, paratowyd cyfres o reoliadau hefyd i ategu Deddf 2023 er mwyn ailddatgan is-ddeddfwriaeth a allai fod angen ei diwygio'n aml mewn ymateb i amgylchiadau neu ofynion sy'n newid.
Rheoliadau newydd sydd mewn grym ar 4 Tachwedd 2024 | Is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei disodli |
---|---|
Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024
| Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017
|
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
| Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018
|
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
| Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
|
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
|
|
Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
| Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
|
Gan ddefnyddio'r un dull ag a gymerwyd gyda Deddf 2023, mae’r rheoliadau newydd wedi diweddaru ac ailddatgan y rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau a oedd yn bodoli’n barod, ond nid ydynt wedi newid effaith y gyfraith. Mae’r rheoliadau newydd wedi disodli’r holl is-ddeddfwriaeth gynharach a nodir yn y tabl ar 4 Tachwedd 2024.
Mae'r pum set hyn o reoliadau, fel Deddf 2023, yn datgan eu bod yn rhan o god cyfraith sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Bwriad y datganiad statws hwn yw helpu pobl sydd â diddordeb yn y gyfraith ar bwnc penodol - yr amgylchedd hanesyddol yn yr achos hwn - i ddod o hyd iddi a'i dosbarthu'n haws.
Set bellach o reoliadau:
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024
Gwnaeth y rheoliadau hyn lawer o ddiwygiadau canlyniadol i ystod eang o is-ddeddfwriaeth i adlewyrchu deddfiad Deddf 2023. Yn eu plith roedd dau reoliad ar yr amgylchedd hanesyddol a oedd yn bodoli’n barod yr oedd ond angen eu diwygio, yn hytrach na’u hailddatgan, i adlewyrchu ymddangosiad Deddf 2023:
- Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017
Ymhlith y diwygiadau a wnaed i'r ddau reoliad hyn roedd mewnosod y datganiad eu bod yn rhan o god yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r un datganiad cod amgylchedd hanesyddol hefyd wedi'i fewnosod yn y rheoliadau canlynol yn sgil eu pwysigrwydd mewn materion gweithdrefnol sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol:
- Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017
Daw'r newidiadau hyn i rym o 4 Tachwedd 2024.