Safleoedd drwy’r canrifoedd
Yn yr adran hon
Cynhanes yw’r enw ar y cyfnod cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd ym Mhrydain yn 47 OC, am ei fod cyn dyfodiad y gair ysgrifenedig i’r ynysoedd hyn. Awgrymir felly na wyddom ryw lawer am yr hyn a ddigwyddodd yn y ‘gorffennol pell a niwlog’. Ond, a dweud y gwir, gwyddom lawer iawn…
Fe ddaethant, fe welsant, fe orchfygasant – neu, yng ngeiriau Julius Caesar, ‘Veni, Vidi, Vici’. Nid yw hynny’n cyfleu hyd a lled goresgyniad y Rhufeiniaid ac yna eu meddiannaeth ar Gymru. Fel sy’n wir am bob ystrydeb dda, mae iddi fwy nag elfen o wirionedd. Ond nid yw’n adrodd yr hanes i gyd...
Ar un adeg, tir tameidiog o deyrnasoedd hynafol oedd Cymru. Tywysogion annibynnol oedd yn ei llywodraethu, wedi’u clymu gan iaith a deddfau cyffredin.
Mae Pont Mullock, bwa syml o garreg ar y ffordd rhwng Penfro a Dale yn ne-orllewin Cymru, yn chwarae rhan allweddol mewn stori gymhellol lle mae Cymro’n cael ei goroni’n frenin Lloegr; ac – yn fwy na hynny – yn sylfaenydd llinach holl-bwerus y Tuduriaid.
Nid mater o hen gerrig ac esgyrn yn unig mo safleoedd hanesyddol Cymru. Roedd y genedl yn geffyl blaen yn Chwyldro Diwydiannol Prydain, grym tanbaid a newidiodd yr ynysoedd hyn – a’r byd – am byth.