Dull Dehongli Cymru Gyfan
Mae dull dehongli Cymru gyfan a arweinir gan Cadw yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ategu treftadaeth a diwylliant cyfoethog ac amrywiol ein gwlad. Mae'n rhoi cyfle unigryw i ddehongli straeon Cymru i ysbrydoli pobl a gwella eu bywydau.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i wneud cysylltiadau ffisegol a thematig rhwng lleoedd a safleoedd fel y gall pobl ddilyn straeon ledled Cymru gyda chymorth dehongli ysbrydoledig.
Y nod yw sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled y wlad, yn lleol neu'n ymweld, yn cael profiadau creadigol, cyffrous, diddorol, sy'n procio'r meddwl ac yn hwyl hefyd. Mae manteision llwyddo yn hyn o beth yn bellgyrhaeddol - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol am gydweithredu dros Gymru gyfan. Mae gan bawb sy'n ymwneud â dehongli yng Nghymru ran i'w chwarae i helpu ein gwlad i sicrhau'r buddiannau hyn.