Skip to main content

Lawrlwythwch y cynlluniau dehongli

Cynlluniau Dehongli

Yn y canllaw hwn

1. Tarddiadau a Chynhanes Cymru

Griff's story image

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer cyflawni dull "mwy cydlynol a chymhellol" o ddehongli cynhanes Cymru i ymwelwyr ac mae'n dilyn y cyfnod o'r adeg y daeth yr anheddwyr Neanderthalaidd cyntaf i'r tir hyd at oresgyniad y Rhufeiniaid yn y pen draw. Ymysg y safleoedd sy'n gysylltiedig â'r cyfnod hwn mae Castell Henllys (bryngaer a phentref a ailadeiladwyd o'r Oes Haearn), Din Llugwy (anheddiad Brythonaidd-Rufeinig), Ogof Pen-y-fai (y bedd dynol hynaf), Pentre Ifan (beddrod siambr), a'r Oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach sef 'Gwreiddiau, cynhanes a goresgyniad a setliad y Rhufeiniaid'. Mae ganddo gysylltiadau agos â chynllun dehongli 'Goresgyniad, Meddiannaeth a Gwladychiad y Rhufeiniaid yng Nghymru OC 47-410' yn benodol.

Y dull gweithredu

Nod y cynllun yw creu 'ymdeimlad o ryfeddod' mewn safleoedd cynhanesyddol a fydd hefyd yn ennyn ymdeimlad o 'barch at orffennol yr henfyd'.  Mae'n awgrymu y dylid trefnu gweithgarwch o amgylch clystyrau daearyddol a thematig o safleoedd, ac y dylai pob clwstwr gael 'porth' (e.e. Castell Henllys yn Sir Benfro). Mae hefyd yn nodi rôl Oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel porth cenedlaethol i roi cyd-destun i'r stori hon.

Mae'n defnyddio'r cysyniad o hynafiaid a'u rolau (e.e. helwyr, gwneuthurwyr arfau, artistiaid, ymchwilwyr i'r byd ysbrydol ac ati) a'i nod yw defnyddio'r rhain: "...i greu darlun o unigolion nad ydynt yn wahanol iawn o ran eu hanghenion corfforol a chymdeithasol i ymwelwyr y 21ain ganrif efallai".

Tarddiadau a Chynhanes Cymru: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

2. Goresgyniad, Meddiannaeth a Gwladychiad y Rhufeiniaid yng Nghymru OC 47-410

Nod y cynllun yw rhoi fframwaith ar gyfer adrodd stori'r Rhufeiniaid ledled Cymru OC 47-410, ei heffaith ar y boblogaeth frodorol ar y pryd, a'r etifeddiaeth barhaus o ran safleoedd, casgliadau ac arteffactau. Mae'r cynllun yn cynnwys safleoedd ledled Cymru yn cynnwys y Caerau Rhufeinig yng Nghaerllion a Chaernarfon ac anheddiad Caer-went. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach 'Gwreiddiau, cynhanes a goresgyniad a gwladychiad y Rhufeiniaid'. Mae ganddo gysylltiadau agos â chynllun dehongli 'Gwreiddiau a Chynhanes Cymru 250,000 CC i OC 47-78' yn benodol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn darparu dogfen gyfeirio ddefnyddiol i'r digwyddiadau a'r dyddiadau allweddol ar gyfer y stori hon. Mae hefyd yn cynnwys 'datganiadau ymgysylltiad', h.y. y prif gysyniadau o'r cyfnod a fydd yn apelio at gynulleidfa fodern; a rhestr o gamau gweithredu â blaenoriaeth a fydd yn arwain at 'ymgysylltiad gwell â diddordebau, dychymyg ac emosiynau ymwelwyr'. Mae'n awgrymu mai'r ffordd orau o gyflwyno'r stori yw drwy hierarchaeth o safleoedd: ac mae'n amlinellu naw pecyn daearyddol penodol i ymwelwyr ledled Cymru.

Y Goresgyniad a'r Setliad Rhufeinig yng Nghymru: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

3. Seintiau Celtaidd, Llefydd Ysbrydol a Phererindodau

Mae'r cynllun yn archwilio stori Cristnogaeth yng Nghymru o tua 400 OC i 1100 OC, sy'n cwmpasu Oes y Seintiau (5ed/6ed ganrif) a datblygiad canolfannau gwleidyddol yn ogystal â chrefyddol o'r 7fed ganrif.  Mae hefyd yn nodi'r effaith a gafodd y stori hon ar "hanes, diwylliant ac enaid" Cymru.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn amlinellu'r hanes, yr archeoleg a'r chwedlau sy'n gysylltiedig â'r stori. Mae'n nodi bod "diddordeb mewn seintiau, safleoedd sanctaidd a phererindod yn mynd y tu hwnt i faterion sy'n ymwneud â chred. Nid oes angen bod wedi proffesu unrhyw ffydd i fwynhau hanesion y seintiau".

Mae'r holl ddull gweithredu yn canolbwyntio ar adrodd storïau. Mae'n awgrymu y dylid mabwysiadu arddull cylchgrawn, gyda lluniau cartŵn o bosibl (yn debyg i gelf o'r oesoedd canol). Y bobl (h.y. y seintiau eu hunain a'r rheini y daethant i gysylltiad â hwy) ynghyd â'r llefydd sy'n gysylltiedig â hwy, yw'r ffocws allweddol ar gyfer y stori hon. Mae hefyd yn nodi bod y storïau hyn yn aml yn seiliedig ar chwedlau yn hytrach na chofnodion hanesyddol gywir a bydd angen eu dehongli yn y fath fodd i'r ymwelydd.

Nod y cynllun yw cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli'r stori hon ledled Cymru yn ogystal ag ar lefel clwstwr lleol. Mae rhai enghreifftiau o'r dull clwstwr wedi'u cynnwys yn y ddogfen at ddibenion eglurhaol. Mae hefyd yn cadarnhau nifer o lwybrau pererindod y dylid eu dehongli ar gyfer cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â gwneud awgrymiadau ar gyfer pecynnau ymwelwyr yn gysylltiedig â'r stori.

Seintiau Celtaidd, Llefydd Ysbrydol a Phererindodau: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

4. Eglwysi, Capeli a Thirweddau Mynachaidd Cymru

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli "yr hanes, pensaernïaeth a thirweddau sy'n gysylltiedig â chredoau Cristnogol y Cymry a'u harferion addoli" o 1100 OC ymlaen. Mae'r safleoedd sy'n gysylltiedig â'r stori hon yn amrywio o gadeirlannau ac abatai fel Ystrad Fflur, i'r nifer anferth o gapeli anghydffurfiol sydd wedi ychwanegu at gymeriad trefi a phentrefi Cymru ers y 1850au.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn cynnwys hanes defnyddiol datblygiad addoldai, ac yn amlygu'r prif gymeriadau sy'n gysylltiedig â'r stori hon. Mae hefyd yn cynnwys archwiliad o sampl o safleoedd.

Mae'n awgrymu y dylid cyflwyno dehongliadau ar gyfer y stori hon i ymwelwyr drwy nifer o becynnau:

  • Safle unigol - angen dehongliad ar y safle
  • Cymunedol - cysylltiad â llefydd eraill mewn pentref neu dref drwy lwybr neu ddigwyddiadau ac ati
  • Aml-safle - dull mwy rhanbarth o gysylltu safleoedd, gyda theithiau tywys a/neu daflen ac ati.

Ym mhob achos awgrymir y dylid llunio cynlluniau dehongli manwl ar gyfer safleoedd penodol; bod deiliaid allweddol yn cael rhywfaint o hyfforddiant 'llysgennad'; ac y dylid gosod arwyddion. Mae hefyd yn argymell nifer o ddulliau o gynnig cyngor a chymorth.

Capeli, Eglwysi, a Thirwedd Mynachaidd Cymru: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

5. Tywysogion Gwynedd

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli stori Tywysogion Gwynedd a sut y daeth y llinach frodorol hon i fri ar ddiwedd y 13eg ganrif, gan ddod mor bwerus fel bod y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd wedi rheoli Cymru unedig yn 1267. Mae'r cynllun hefyd yn ymdrin â'r rhyfel dilynol â brenhiniaeth Lloegr. Mae'n cwmpasu safleoedd fel cestyll Dolbadarn, Ewlo, Cricieth a Castell y Bere; yn ogystal â Phriordy Penmon ac Abaty Dinas Basing.

Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinell stori ehangach Cestyll a Thywysogion Cymru'r oesoedd canol a'r frwydr dros annibyniaeth. Mae ganddo gysylltiad agos â chynllun dehongli 'Cestyll a muriau tref Edward I' yn benodol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn nodi cyd-destun hanesyddol y stori a'i chysylltiadau â chynlluniau dehongli eraill Cadw. Mae'n nodi amryw o gyfleoedd i gyflwyno dehongliadau ar bob cam o'r broses o ymgysylltu â'r ymwelydd (h.y. o'r adeg cyn yr ymweliad i ddehongliadau y gellir eu haddasu a fyddai'n annog ailymweliadau) ac mae'n cynnwys archwiliadau ar y safle. Mae hefyd yn awgrymu nifer o glystyrau o safleoedd.

Tywysogion Gwynedd: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

6. Tywysogion y Deheubarth

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli "cynnydd a chwymp llinach" Tywysogion y Deheubarth (tua 930 i 1287) a'u heffaith ar ddiwylliant a thirwedd de-orllewin Cymru. Mae'n cynnwys stori cymeriadau fel yr Arglwydd Rhys a safleoedd fel Cestyll Carreg Cennen, Aberteifi, Dinefwr a Nanhyfer; ac Abatai fel Ystrad Fflur a Thalyllychau. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach 'Cestyll a thywysogion Cymru'r oesoedd canol a'r frwydr dros annibyniaeth'. Mae ganddo gysylltiadau agos â chynllun dehongli 'Arglwyddi'r Mers Deheuol' yn benodol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn awgrymu gan nad yw'r stori hon yn hysbys i'r rhan fwyaf o bobl, y byddai angen i'r broses o adrodd y stori ddibynnu ar bynciau cyffredinol fel "yr ymdrech i oroesi" a'r "frwydr i gadw pŵer a hunaniaeth". Mae'n hyrwyddo'r defnydd o gymeriadau i 'seilio storïau arnynt', h.y. cymysgedd o bobl go iawn (gan ddibynnu ar gofnodion hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r arglwyddi, eu teuluoedd ac ati) a chymeriadau mwy cyffredinol (morwynion, adeiladwyr, stiwardiaid ac ati).

Mae'r cynllun hefyd yn amlygu sut y gellid clystyru safleoedd hanesyddol yn ddaearyddol i helpu i adrodd y stori. Awgrymir y dylid defnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau dehongli ar y safle ac o bell.

Tywysogion y Deheubarth: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

7. Arglwyddi'r Mers Deheuol

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli stori'r Arglwyddi Eingl-Normanaidd pwerus yn Neheubarth Cymru, rhwng 1066 a tua 1410 a'r effaith a gafodd eu gweithgareddau ar hanes Cymru. Ymysg y safleoedd sy'n gysylltiedig â'r stori hon mae'r cestyll yng Nghaerffili, Caerdydd, Cas-gwent a Chydweli yn ogystal ag Abaty Tyndyrn. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach 'Cestyll a thywysogion Cymru'r oesoedd canol a'r frwydr dros annibyniaeth'. Mae ganddo gysylltiad agos â chynllun dehongli 'Tywysogion y Deheubarth' yn benodol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn awgrymu, gan nad yw'r stori hon yn hysbys i'r rhan fwyaf o bobl, y byddai angen i'r broses o adrodd y stori ddibynnu ar bynciau cyffredinol fel "yr ymdrech i oroesi" a'r "frwydr i gadw pŵer a hunaniaeth". Mae'n hyrwyddo'r defnydd o gymeriadau i 'seilio storïau arnynt', h.y. cymysgedd o bobl go iawn (gan ddibynnu ar gofnodion hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r arglwyddi, eu teuluoedd ac ati) a chymeriadau mwy cyffredinol (morwynion, adeiladwyr, stiwardiaid ac ati).

Mae'r cynllun hefyd yn pwysleisio sut y gellid clystyru safleoedd hanesyddol yn ddaearyddol i helpu i adrodd y stori. Awgrymir y dylid defnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau dehongli ar y safle ac o bell.

Arglwyddi'r Mers Deheuol: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

8. Cestyll Edward I

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli stori cestyll a muriau tref Edward 1 a'r effaith a gawsant ar bobl Gogledd Cymru. Mae'n cwmpasu'r cyfnod o 1276 pan oedd y Brenin o Loegr yn buddsoddi amser ac adnoddau yn yr ardal fel rhan o frwydr pŵer barhaus â'r Tywysogion brodorol. Ymysg y safleoedd sy'n gysylltiedig â'r cyfnod hwn mae'r cestyll yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech sydd â statws Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach 'Cestyll a thywysogion Cymru'r oesoedd canol a'r frwydr dros annibyniaeth'. Mae ganddo gysylltiad agos â chynllun dehongli 'Tywysogion Gwynedd' yn benodol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn nodi cyd-destun hanesyddol y stori a'i chysylltiadau â chynlluniau dehongli eraill yn y llinyn stori. Mae'n nodi amryw o gyfleoedd i gyflwyno dehongliadau ar bob cam o'r broses o ymgysylltu â'r ymwelydd (h.y. o'r adeg cyn yr ymweliad i ddehongliadau y gellir eu haddasu a fyddai'n annog pobl i ailymweld) ac mae'n cynnwys archwiliadau ar y safle.

Cestyll Edward I: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

9. Owain Glyndŵr a’i Wrthryfel

Mae'r cynllun hwn yn edrych ar y stori sy'n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr, ei fywyd (tua 1359 i tua 1416) a'i rôl arweiniol yn y rhyfeloedd yn erbyn awdurdod Lloegr ar ddiwedd y 14eg ganrif a dechrau'r 15fed ganrif. Ymysg y safleoedd sy'n gysylltiedig â'r cyfnod hwn mae llysoedd Glyndŵr yn Sycharth a Glyndyfrdwy; a'r cestyll yn Aberystwyth a Harlech. Ceir cysylltiadau rhwng y stori hon a'r straeon eraill yn llinell stori ehangach Cestyll a Thywysogion Cymru'r Oesoedd Canol.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn cynnwys dehongliad defnyddiol o'r ffynonellau hanesyddol a llenyddol sy'n helpu i greu'r darlun o fywyd Glyndŵr. Mae'n cynnwys archwiliad o safleoedd perthnasol ac yn awgrymu sut y gellid eu dehongli. Mae hefyd yn cynnwys syniadau ar gyfer dau glwstwr daearyddol sy'n seiliedig ar safleoedd.

Owain Glyndŵr a'i Wrthryfel: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

10. Ymatebion Artistig i'r Dirwedd

Mae'r cynllun yn nodi sut mae'r dirwedd wedi ysbrydoli pob math o artistiaid dros y 300 mlynedd diwethaf, a sut y gellid defnyddio'r dehongliad artistig dilynol i wella profiadau ymwelwyr yng Nghymru.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn awgrymu bod y themâu canlynol ar y cyd yn cynnig 'naratif cenedlaethol' ar gyfer tirwedd Cymru.

  • Y dirwedd fel hanes
  • Y dirwedd fel natur
  • Y dirwedd fel cartref
  • Y dirwedd fel adnodd.

Mae'r rhain yn ategu dull sy'n "seiliedig ar greu'r diddordeb cyffredinol mwyaf". Ymysg y syniadau ar gyfer hyn mae defnyddio brasluniau bywgraffiadol artistiaid; cymharu'r modd y mae ymatebion artistiaid wedi newid dros amser; cymariaethau â thirweddau cyfoes; enghreifftiau o'r math o gelf a ddefnyddiwyd ac archwiliad o'r nodweddion topograffig sy'n gwneud tirwedd yn destun gwerth chweil.

Ymatebion Artistig i'r Dirwedd: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

11. Amddiffyn y Deyrnas

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer dehongli stori rôl Sir Benfro yn amddiffyn Prydain rhag rhyfel a goresgyniad dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae'n nodi tri llinyn stori cryf: y bygythiad milwrol o Ffrainc yn y 18fed/19eg ganrif; rôl weithredol yr ardal yn y ddau Ryfel Byd; ei rôl barhaus yn ystod y Rhyfel Oer.

Mae stori Sir Benfro yn rhan o stori 'Amddiffyn y Deyrnas' ehangach Cymru gyfan a gaiff ei harchwilio maes o law drwy gynllun ategol.


Y dull gweithredu
I'ch helpu i benderfynu i ba raddau y mae eich prosiect yn cyd-fynd â hyn, mabwysiadwyd dull thematig o ddehongli'r stori hon. Mae'r cynllun yn nodi dros 430 o safleoedd o dan y stori hon ac felly mae'n awgrymu meini prawf ar gyfer eu categoreiddio yn ôl eu hygyrchedd ffisegol a deallusol.

Mae'n mynd ymlaen i argymell, o ystyried amrywiaeth a nifer y safleoedd, bod angen "cyfuniad o ddulliau cyfathrebu a dehongli creadigol lleol ac o bell".

Amddiffyn y Deyrnas – Sîr Benfro: Cynllun Dehongli (Saesneg yn Unig)

12. Cymru: Y Wlad Ddiwydiannol Gyntaf

Mae'r cynllun yn amlinellu'r effaith a gafodd diwydiannu ar Gymru, a'r cyfraniad a wnaed gan ddiwydiant Cymru yn fyd-eang. Mae'r cynllun yn derbyn bod pobl wedi ymwneud â gweithgarwch diwydiannol erioed, ond mae'n canolbwyntio ar chwyldro diwydiannol y 18fed a'r 19eg ganrif yn bennaf. Mae'r cynllun yn edrych ar sut y gwnaeth pobl, yn dibynnu ar eu statws a'u cymhelliant, effeithio ar y newid hwn neu sut y gwnaeth effeithio arnynt hwy. Mae'n cynnwys rhestr o bobl ddylanwadol a oedd yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ddiwydiannau a mudiadau cymdeithasol, yn ogystal â nifer o safleoedd yn cynnwys llefydd eiconig fel Gwaith Haearn Blaenafon ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Y dull gweithredu

Mae'r cynllun yn edrych ar y stori o dair ongl:

  • Pobl - mae hyn yn ystyried cymhelliad amryw o fuddsoddwyr, dyfeiswyr, entrepreneuriaid, noddwyr, gweithwyr, diwygwyr gwleidyddol, ysgogwyr a chynhyrfwyr cymdeithasol a'r hyn oedd yn sail i'r chwyldro diwydiannol yng Nghymru.
  • Prosesau - mae hyn yn nodi'r adegau allweddol yng Nghymru, lle gwnaed dyfeisiadau neu lle mabwysiadwyd technolegau a gododd diwydiant i lefelau newydd a chyffrous.
  • Llefydd - mae hyn yn ateb y cwestiwn 'pam ddigwyddodd hyn oll yng Nghymru?' Mae'n amlinellu pwysigrwydd cyfoeth mwynol Cymru (yn enwedig llechi, mwyn haearn a glo), ac yn nodi llawer o'r lleoliadau allweddol yn y stori

Mae'n awgrymu nifer o ffyrdd o gysylltu'r stori ledled Cymru.

Cymru Y Wlad Ddiwydiannol Gyntaf (Saesneg yn Unig)