Skip to main content

Gwerthu i Cadw

Fel rhan o'n gwaith i warchod a diogelu treftadaeth adeiledig Cymru, mae angen i Cadw brynu ystod o waith, gwasanaethau a nwyddau.

Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, gwaith cadwraeth arbenigol ar adeiladau hynafol a hanesyddol, gwaith adeiladu cyffredinol (prif gontract ac is-gontract), offer bach, gwasanaethau cynnal a chadw, gwasanaethau ymgynghori, argraffu o ansawdd gwaith celf, dylunio arddangosfeydd, gwasanaethau glanhau, cynnal a chadw tiroedd a thirweddu. Rydyn ni hefyd yn prynu nwyddau i’w gwerthu yn siopau Cadw.

Dim ond â chwmnïau sy'n dechnegol gymwys, sydd mewn sefyllfa ariannol gadarn ac sy'n rhannu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i ymwelwyr y mae Cadw yn llunio contractau.

Yn yr adran hon

Safleoedd Manwerthu
Mae’r Adran Fanwerthu yn gyfrifol am sicrhau, dosbarthu a chyflwyno amrywiaeth eang o nwyddau sy’n cael eu gwerthu ar-lein ac mewn siopau rhoddion Cadw ledled Cymru.