Skip to main content

Archwiliwch safleoedd hanesyddol Cymru fel erioed o'r blaen...

Ym mis Ebrill eleni, rydym yn lansio ein cyfres ddiweddaraf o deithiau rhithwir — gan ganiatáu i garwyr hanes Cymru a thu hwnt ddarganfod saith o'n safleoedd treftadaeth a thirnodau mwyaf trawiadol, a hynny o gysur eu soffa.

Gan gynnwys popeth o dŷ tref Elisabethaidd o’r 16eg ganrif i adfeilion castell arfordirol, bydd y casgliad newydd sbon yma o deithiau digidol yn ehangu ein llyfrgell bresennol o Ymweliadau Rhithwir, a bydd pob un ohonynt ar gael i'w gweld a'u harchwilio ar y dudalen we hon.

Wedi'u pweru gan dechnoleg sganio 3D, bydd y teithiau rhithwir newydd yma yn cael eu rhyddhau fesul cam drwy gydol fis Ebrill, gyda phob un yn cael eu categoreiddio yn ôl thema a'u hychwanegu at ein casgliad byw o becynnau cynnwys Ymweliadau Rhithwir.

Wedi'u dylunio i fod yn gydnaws â phob dyfais, y cyfan y bydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur ddesg, ffôn symudol neu set VR i'ch trochi o fewn eich antur ddewisol. Felly, ewch amdani!

Dewiswch o'n pecynnau cynnwys Ymweliadau Rhithwir i gael gwybod mwy am themâu ein profiadau digidol...