Skip to main content

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth y byddai Roger Lewis yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried trefniadau llywodraethu presennol Cadw a’r ddarpariaeth ehangach o wasanaethau treftadaeth gyhoeddus ledled Cymru.

Cyd-destun yr adolygiad oedd y penderfyniad yn 2017 i gadw Cadw yn asiantaeth fewnol oddi mewn i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r penderfyniad hwnnw, byddai Cadw yn elwa ar fwy o ryddid gweithredol a masnachol gan alluogi’r corff i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon wrth gyflawni ei ystod eang o rolau a chyfrifoldebau. Byddai llwyddiant y trefniadau hynny’n cael ei asesu ar ôl pum mlynedd.

Mae adroddiad yr adolygiad wedi'i gyhoeddi. Mae’n cymeradwyo’r penderfyniad a wnaed yn 2017, mai aros o dan adain y Llywodraeth sydd orau ar gyfer Cadw, ond mae’n nodi nifer o argymhellion a fydd yn gwella perfformiad Cadw.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn treulio amser yn ystyried yr adroddiad yn fanwl a bydd ei hymateb ar gael yma pan gaiff ei gyhoeddi yn gynnar yn 2024.

Adolygiad Cadw: adroddiad a chanfyddiadau