Skip to main content

Gwarchod ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

P’un a ydych yn ystyried treftadaeth yn yr ardal leol, yng Nghymru yn ehangach neu yn y byd, rhaid i ni ganolbwyntio ar werthfawrogi asedau hanesyddol y mae mor hawdd i ni eu cymryd yn ganiataol, a chanolbwyntio ar bwysigrwydd gofalu amdanynt fel dinasyddion gwybodus.

Gadewch i ni archwilio sut y gall pob un ohonom helpu i warchod ein safleoedd hanesyddol rhag cael eu camddefnyddio, boed drwy fandaliaeth anfwriadol ar raddfa fach neu drwy weithredoedd hunanol bwriadol sy’n dinistrio’r cyfle i archwilio safleoedd yn fanylach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gallwn ystyried y gydnabyddiaeth y mae rhai safleoedd yn ei chael i ddod yn Safleoedd Treftadaeth y Byd, a’r modd y mae safleoedd ar draws gwahanol wledydd yn rhannu cysylltiadau cyffredin.

Gallwn hefyd adnabod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. A sut mae heneb sy’n bwysig i un person yn gallu bod yn heneb sy’n atgoffa rhywun arall am ormes yn barhaus.

Dod yn warchodwr treftadaeth

Mae’r adnodd hwn yn addysgu dysgwyr am ein hamgylchedd hanesyddol. Mae’n esbonio pam mae angen i ni ei warchod rhag troseddau treftadaeth, a sut y gall pob un ohonom gydweithio i sicrhau bod y mannau hanesyddol sydd yng Nghymru yn goroesi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ei ddiben yw hybu’r gwaith o hwyluso’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar y Dyniaethau ac yn cynorthwyo dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus, hunanymwybodol sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac sy’n gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. 

Archwiliwch ein hadnoddau diweddaraf ar Hwb