Skip to main content

Safleoedd Treftadaeth y Byd

Deall Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Yn y canllaw hwn

1. Cyflwyniad

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn llefydd o werth cyffredinol eithriadol i ddynoliaeth yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn golygu eu bod o bwys diwylliannol a/neu naturiol mor eithriadol fel bod ganddynt bwysigrwydd arbennig i bobl ym mhobman, heddiw ac yfory.

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn fwy na’r enghreifftiau gorau o’u math; maen nhw’n safleoedd, henebion a thirweddau sy’n dweud rhywbeth sylfaenol am ddynoliaeth, o ble y daethom a’r byd rydym yn byw ynddo. Mae’r broses ddewis a dethol yn drwyadl ac yn feichus er mwyn sicrhau bod y safleoedd ar Restr Treftadaeth y Byd yn gasgliad unigryw sydd ag arwyddocâd rhyngwladol diamheuol.

Statws Safle Treftadaeth y Byd yw’r gydnabyddiaeth uchaf y gellir ei rhoi i werth treftadaeth. Golyga hyn fod gennym gyfrifoldeb i ddiogelu, gwarchod a chyflwyno ein Safleoedd Treftadaeth y Byd, er budd cenedlaethau’r dyfodol.

2. UNESCO

Crëwyd y cysyniad o Dreftadaeth y Byd ym 1972 pan fabwysiadodd UNESCO y Convention Concerning the Protection of the World Cultural and Natural Heritage.

Mae dros 190 o wledydd wedi cadarnhau’r confensiwn a mil a mwy o safleoedd wedi’u dynodi’n Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae llywodraethau sydd wedi cadarnhau’r confensiwn (Partïon Gwladol) yn nodi ac enwebu safleoedd addas i Bwyllgor Treftadaeth y Byd i’w dynodi ar y rhestr a gaiff ei chynnal gan UNESCO.

Mae’r DU yn Barti Gwladol. Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) San Steffan yw’r Parti Gwladol ar gyfer y DU i gyd, ac mae’n atebol i UNESCO am sicrhau bod y DU yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyffredinol â’r confensiwn.

3. Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae gennym dri Safle Treftadaeth y Byd yma yng Nghymru:

• Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd (a ddynodwyd yn 1986)

• Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (a ddynodwyd yn 2000)

• Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte (a ddynodwyd yn 2009).

Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am:

  • nodi a chyflwyno safleoedd i’r DCMS i’w henwebu
  • sicrhau cydymffurfiaeth â’r confensiwn yng Nghymru.   Yn ymarferol, Cadw sy’n cyflawni’r rolau hyn ar ran Gweinidogion Cymru.  

Mae gan awdurdodau cynllunio gyfraniad pwysig i’w wneud o ran diogelu’r Safleoedd Treftadaeth y Byd a’u lleoliadau rhag datblygiad amhriodol drwy’r system gynllunio ofodol.

Mae’r ddogfen Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eu diogelu.

Mae ein Safleoedd Treftadaeth y Byd yn werthfawr. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio er mwyn helpu pawb i ddeall eu hanes a’r hyn sy’n eu gwneud mor bwysig yn rhyngwladol. Os yw pobl yn gofalu amdanynt, gallwn nid yn unig eu diogelu ond hefyd gallwn ddatgloi’r cyfleoedd a gynigir i Gymru drwy wella cydnabyddiaeth fyd-eang, twristiaeth, gweithgarwch adfywio a dysgu gydol oes.

Mae diogelu, gwarchod a chyflwyno ein Safleoedd Treftadaeth y Byd, nawr ac yn y dyfodol, yn hanfodol i gyflawni’r uchelgeisiau hyn.