Skip to main content

Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Arysgrifwyd yn 2021

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ei leoli yng Ngwynedd ac yn cynnwys chwech ardal allweddol. Mae’r dirwedd yn arddangos stori anhygoel yr esblygiad o gymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un wedi’i ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda trefi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn naddu eu ffordd trwy fynyddoedd Eryri i lawr i’r porthladdoedd eiconig.

O fewn tirwedd llechi gogledd orllewin Cymru mae modd i chi weld, darllen a deall pob cam o’r diwydiant cloddio yn well na mewn unrhyw fan arall o’r byd. Y chwareli enfawr, pyllau dwfn, ceudyllau a thomenni anferthol; melinau prosesu; systemau trafnidiaeth yn cynnwys inclêns serth, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd; cymunedau wedi eu creu ar gyfer y gweithlu a thai crand y perchnogion; defnydd o’r cynnyrch terfynol o’n cwmpas ym mhob man.

Mae hen, hen hanes tu cefn i’n llechi ni yma yng ngogledd Cymru. Roedd y Rhufeiniaid yn eu caer yn Segontium, Caernarfon yn eu defnyddio, ac mae pobl yn parhau i’w prynu, ac yn gwybod mai’r rhain ydi’r llechi gorau.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol , o tua 1790 i 1890, llechi oedd defnydd toeau tai a ffatrïoedd, plastai a phwerdai. Roedd yn ddigon hawdd i’w cario ar longau bychain o borthladdoedd Gwynedd, at gegau’r camlesi fyddai’n cyflenwi defnyddiau i’r ardaloedd diwydiannol.

O 1801 byddai’r llechi to yn cael eu cario o’r chwareli ar hyd rhwydwaith o reilffyrdd cul. Roeddent yn troelli drwy dirwedd anodd, ac yn gwneud defnydd blaengar o injans stem. Roedd y rhain yn ysbrydoliaeth i beirianwyr ar draws y byd. Ac yn 1951, y daeth gwirfoddolwyr i achub a gweithredu rheilffordd Talyllyn - y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd.

Roedd marchnad am lechi Cymru tu allan i Brydain hefyd. Daeth penseiri, diwydianwyr ac adeiladwyr i weld, a gwybod am ein llechi. Fe’u defnyddiwyd ar draws y byd ar gyfer adeiladau o bob math. Er enghraifft, tai teras cyffredin yn y dinasoedd diwydiannol, Ty Cwrdd y Crynwyr yn Adelaide, ac adeiladau urddasol fel Neuadd y Ddinas Copenhagen, ac adeilad y Royal Exhibition yn Melbourne.

Daeth y llechi a’u Chwyldro eu hunain i ardaloedd distaw, mynyddig gogledd Cymru. Roedd cloddfeydd y chwareli, a’r tomennydd rwbel o’u hamgylch, yn ffurfio tirwedd weledol newydd. Doedd dim peiriannau ar y cychwyn. Roedd rhaid i’r crefftwyr symud pob darn eu hunain mewn amgylchiadau anodd. Mae’r ffurfiau sydd wedi goroesi yn dystiolaeth o’r gwaith caled yma.

Creodd gwyr a gwragedd yr ardal ddiwylliant bywiog. Mae’r dirwedd ddiwylliannol yma mor bwysig heddiw ag y bu erioed. Mae’r capeli a’r eglwysi, yr ystafelloedd band, yr ysgolion a’r llyfrgelloedd yn dystiolaeth o’r parch at ffydd, addysg, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Yn sylfaenol i’r cyfan mae’r Gymraeg. Hon ydi iaith fywiog ein cymunedau hyd heddiw.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr arysgrif i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ar  wefan UNESCO , yn cynnwys y datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol.

Ymwelwch â gwefan Llechi Cymru www.llechi.cymru