Skip to main content

Mae trosedd treftadaeth yn golygu unrhyw weithgarwch anghyfreithlon sy'n difrodi asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau.

Caiff rhai o'r asedau hyn eu diogelu gan droseddau penodol ond mae troseddau treftadaeth yn aml yn digwydd ar ffurf troseddau 'cyffredinol' megis dwyn, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd yr un mor andwyol i asedau hanesyddol ac yn amharu ar ddealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd ohonynt. 

Os ydych yn pryderu bod troseddau yn effeithio ar adeiladau hanesyddol neu henebion neu safleoedd eraill yng Nghymru, boed hynny'n gyffredinol neu mewn perthynas â lle penodol, mae'r wybodaeth isod yn rhoi cyngor ar yr hyn sy'n cael ei wneud am y broblem a'r camau y gallwch chi eu cymryd. 

Os gwyddoch am drosedd sy'n digwydd ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. 

Deddfwriaeth Berthnasol

Er bod sawl math gwahanol o droseddau treftadaeth, mae deddfwriaeth benodol ar waith sy'n ei gwneud yn drosedd i rywun ymgymryd â gweithgarwch penodol ar safleoedd penodol. Er enghraifft, o dan Adran 2(2) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979, mae'n drosedd ymgymryd â'r canlynol, heb ganiatâd Gweinidogion Cymru:

  • unrhyw waith sy'n arwain at ddymchwel neu ddinistrio neu unrhyw ddifrod i  unrhyw heneb gofrestredig, byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, y defnydd anghyfreithlon o ddatgelyddion metel 
  • unrhyw waith at ddibenion symud neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni neu wneud unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau ati;
  • unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar dir lle mae heneb gofrestredig. 

Os ydych yn pryderu bod digwyddiad diweddar wedi difrodi ased hanesyddol, ffoniwch 101 i roi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad. 

Camau Dilynol i'w Hystyried 

Os credwch fod eiddo yn adeilad rhestredig, cysylltwch ag adran Gadwraeth eich Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau ei bod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod a achoswyd i'r ased. 

Os credwch fod yr eiddo yn heneb gofrestredig, cysylltwch â Cadw er mwyn sicrhau ei bod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod a achoswyd i'r ased.  

Byddwch yn barod i roi datganiad tyst i'r heddlu fel rhan o unrhyw gamau ffurfiol gan yr heddlu o ganlyniad i'r digwyddiad. 

Os caiff unrhyw gamau ffurfiol eu cymryd, efallai y bydd yr heddlu hefyd yn gofyn i chi roi datganiad effaith er mwyn sicrhau bod effaith lawn y digwyddiad ar y gymuned a gwerth treftadaeth yn cael eu hystyried wrth ddedfrydu. 

Dwyn metel

Mae dwyn metel o adeiladau hanesyddol, ac yn benodol o addoldai, wedi bod yn broblem gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mae Historic England wedi llunio'r canllawiau (a gymeradwywyd gan Cadw). Mae'r canllawiau'n rhoi cyngor ar sut i ddiogelu gwaith plwm rhag achosion o ddwyn, yn ogystal â chynnig canllawiau a gwybodaeth ymarferol am sut i ymateb mewn achos o ddwyn.

Gwarchod ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol