Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru wedi dod at ei gilydd er mwyn lleihau troseddau treftadaeth drwy roi rhybudd clir — unwaith y mae wedi mynd, ni ellir ei gael yn ôl.

Mae troseddau treftadaeth yn niweidio safleoedd ac asedau hanesyddol, ac yn cynnwys canfod metel yn anghyfreithlon, neu ddwyn o safleoedd archeolegol gyda’r nos, a gyrru allffordd ar safleoedd o’r fath.

Er mwyn ceisio atal rhagor o ddarnau pwysig o dreftadaeth rhag cael eu colli, mae Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru’n lansio Ymgyrch Treftadaeth Cymru ar 21 Mehefin 2022.

Y fenter yw’r cyntaf o’i math yn y DU, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth ac atal troseddau treftadaeth ledled Cymru.

Dywedodd yr Arolygydd Reuben Palin o Heddlu Dyfed-Powys:

'Mae pobl yn haeddiannol falch o’u treftadaeth, ond yn anffodus, mae lleiafrif sydd ddim yn rhoi’r parch mae’n haeddu iddi.

'Mae troseddau treftadaeth yn fater difrifol sy’n medru cael effaith negyddol difrifol ar ein cymunedau.  

'Ni ellir disodli ein treftadaeth a’r darnau bach o hanes sy’n cael eu dymchwel neu eu colli i droseddau treftadaeth, felly rydyn ni eisiau gwneud i bobl feddwl am eu gweithredoedd ac annog unrhyw un i beidio â gweithredu yn y fath modd.'

Bydd timoedd heddlu’n gweithio gyda Cadw, Llywodraeth Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymddiriedolaethau archeolegol a gwirfoddolwyr amrywiol ledled y sector i weithio tuag at ddealltwriaeth well o droseddau treftadaeth.

I gyd-fynd â’r lansiad, mae cadetiaid heddlu ledled Cymru’n cael eu hyfforddi mewn troseddau treftadaeth, ynghyd â thimoedd Plismona Bro a Throseddau Gwledig.

Dywedodd Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys:

'Ein treftadaeth sy’n gyfrifol am bwy ydym ni, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwarchod y tirnodau a’r tirweddau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

'Efallai bod y troseddau hyn yn ymddangos yn fân i’r sawl sy’n rhan ohonynt, ond dydyn nhw ddim. Mae unrhyw beth sy’n cael ei gymryd neu ei ddifrodi pan mae troseddau treftadaeth yn cael eu cyflawni’n anadnewyddadwy, felly unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw ar goll am byth.  

'Fel heddluoedd, yr ydym yn dangos ein hymrwymiad i’r mater hwn, felly yr ydym yn gobeithio bydd y cyhoedd yn ein cefnogi drwy fod yn llygaid a chlustiau inni, ac yn adrodd amdano pan maen nhw’n gweld pobl yn cyflawni troseddau treftadaeth.'

Gweithgarwch anghyfreithlon yw troseddau treftadaeth sy’n niweidio asedau hanesyddol, gan gynnwys adeiladau, cofebion, parciau, gerddi a thirweddau.

Gwarchodir rhai o’r asedau hyn gan dramgwyddau troseddol penodol, ond yn aml, mae troseddau treftadaeth ar ffurf troseddau ‘cyffredinol’ megis lladrad, difrod troseddol, cynnau tân yn fwriadol, achub llongddrylliad yn anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd llawn mor niweidiol i asedau hanesyddol ac yn ymyrryd â dealltwriaeth a phleser y cyhoedd ohonynt.

Ystyr canfod metel yn anghyfreithlon yw chwilio’n anghyfreithlon am hynafiaethau a’u symud o’r tir gan ddefnyddio peiriannau canfod metel heb ganiatâd perchnogion tir, neu ar dir gwaharddedig megis henebion cofrestredig. Gan hynny, lladrad yw canfod metel yn anghyfreithlon.

Os ydych chi’n poeni am droseddau’n effeithio ar gofadeiladau neu adeiladau hanesyddol neu safleoedd eraill yng Nghymru, yn gyffredinol neu mewn perthynas â lle penodol, mae’r wybodaeth isod yn rhoi cyngor ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei wneud am y broblem a’r camau fedrwch chi gymryd eich hun.

Os ydych chi’n gwybod am drosedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, galwch yr heddlu’n syth ar 999.

Os ydych chi’n poeni bod rhywbeth wedi digwydd yn ddiweddar sydd wedi difrodi ased hanesyddol, galwch 101 er mwyn rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad. Fel arall, cewch adrodd amdano drwy wefan eich heddlu lleol.  

Dyfynnwch “Ymgyrch Treftadaeth Cymru” wrth adrodd.

Er mwyn cyflwyno gwybodaeth am weithgarwch troseddol ac aros yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy alw heibio i www.crimestoppers-uk.org

Diogelu treftadaeth Cymru

(Adnodd i helpu dysgwyr Cyfnodau Allweddol 2 a 3).