Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Difrod i henebion cofrestredig

Yn y canllaw hwn

1. Difrod a gwaith heb ei awdurdodi

Mae’n drosedd dinistrio neu ddifrodi heneb gofrestredig heb gydsyniad heneb gofrestredig. Y person sy’n comisiynu neu’n gwneud y gwaith sy’n gyfrifol am osgoi difrodi heneb gofrestredig. Gellir erlyn unrhyw un a geir yn euog o ddinistrio neu o ddifrodi heneb gofrestredig.

Hefyd, mae’n drosedd gwneud gwaith heb gydsyniad heneb gofrestredig. Ni fydd peidio â gwybod am statws neu leoliad heneb gofrestredig yn amddiffyniad oni bai eich bod yn gallu profi ichi gymryd pob cam rhesymol i weld a fyddai’r gwaith yn effeithio ar heneb gofrestredig. Caniateir amddiffyniad hefyd ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud ar fyrder er budd iechyd a diogelwch, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu’n ysgrifenendig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Rhag ichi wneud gwaith heb ei awdurdodi, mae’n bwysig eich bod yn gwybod am leoliad a manylion yr holl henebion cofrestredig sydd ar eich tir, a deall hyd a lled y tir sydd wedi’i gofrestru. Trowch at fapiau Cof Cymru — Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru — cronfa ddata ar-lein Cadw.

Dylai unrhyw un sy’n gwneud gwaith adeiladu neu waith mawr arall sy’n golygu aflonyddu’r tir ddefnyddio Cof Cymru i gadarnhau nad oes henebion cofrestredig yn yr ardal lle byddwch yn gweithio.

Os gwelwch i ddifrod sydd heb ei awdurdodi gael ei wneud i’ch heneb gofrestredig, cysylltwch â Cadw ar unwaith. Bydd Cadw yn ymchwilio i unrhyw adroddiad bod difrod wedi’i wneud i heneb gofrestredig. Lle profir bod difrod wedi’i wneud, bydd Cadw’n dweud wrth yr heddlu fydd yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain i gasglu tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron ei hystyried. Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd yn penderfynu a ddylid erlyn neu beidio.

Dirwy yw’r gosb am greu difrod neu ddinistr ond os cawsant eu gwneud yn fwriadol neu’n ddi-hid, gellid carcharu’r sawl sy’n euog.

O dan amgylchiadau eithriadol, bydd modd gofyn am gydsyniad ôl-weithredol er mwyn cael cadw gwaith heb ei awdurdodi. Mater fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda yw cydsyniad o’r fath. Yn ymarferol, dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae’r gwaith o fudd i’r heneb y gall hynny ddigwydd.

Mae’n annhebygol iawn y gallai cydsyniad ôl-weithredol gael ei roi am waith a gafodd effaith negyddol ar heneb gofrestredig. Mae hynny’n golygu y gallech dal gael eich erlyn a/neu wynebu camau gorfodi, neu’r ddau, am wneud y gwaith. Yr un yw’r broses ymgeisio â’r honno am gydsyniad heneb gofrestredig.

2. Hysbysiadau stop dros dro

Os delir rhywun yn difrodi heneb gofrestredig, mae gan Cadw’r pŵer i roi hysbysiad stop dros dro iddo a fydd yn para hyd at 28 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Cadw’n gweithio gyda pherchennog yr heneb i ymchwilio i’r difrod a’i asesu, a chytuno ar blan i’w gywiro.

Os rhoddir hysbysiad stop dros dro ichi, rhaid ichi roi’r gorau i’r gwaith ar unwaith am y cyfnod a nodir ar yr hysbysiad. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, a gellir eich dirwyo am beidio. Byddai hynny’n ychwanegol at y drosedd wreiddiol o wneud gwaith heb ei awdurdodi.

Ar ôl i Cadw gynnal ei ymchwiliad, ond cyn diwedd cyfnod yr hysbysiad stop dros dro, gallai Cadw roi hysbysiad gorfodi ysgrifenedig. Bydd hwnnw’n nodi’r gwaith y bydd angen ei wneud i atgyweirio neu liniaru’r difrod ac i warchod yr heneb a’i gwneud yn sefydlog.

3. Hysbysiadau gorfodi mewn perthynas â henebion cofrestredig

Os oes gwaith heb ei awdurdodi wedi’i wneud sydd wedi difrodi heneb gofrestredig, gall Cadw roi hysbysiad gorfodi i’r perchennog neu’r bobl sy’n gyfrifol am y difrod.58 Bydd yr hysbysiad gorfodi’n nodi’r hyn sydd angen ei wneud i atgyweirio’r difrod. Gallai hynny amrywio yn ôl natur yr heneb a’r math o ddifrod. Fel arfer, bydd yn cynnwys ymchwiliad archaeolegol i adfer a chofnodi tystiolaeth hanesyddol a naill ai sefydlogi neu adfer yr heneb i’w chyflwr gwreiddiol.

Os ydych yn cael hysbysiad gorfodi, bydd yn cynnwys amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith a bydd yn rhaid ichi gadw ati. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad. Os na chymerir y camau gofynnol yn y cyfnod hwn, gallai Cadw ddewis gwneud y gwaith ei hun a chodi am y costau ar y perchennog.

Mae Cadw yn cyhoeddi’r holl hysbysiadau gorfodi y mae wedi’u rhoi mewn cysylltiad â henebion cofrestredig ar ei wefan.

4. Pwerau mynediad

Gall Cadw neu asiant awdurdodedig ddod i archwilio’ch heneb gofrestredig ar unrhyw adeg resymol i:

• weld ei chyflwr

• gweld a oes gwaith heb ei awdurdodi wedi’i wneud ac a fu difrod cysylltiedig

• ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig, neu newid neu ddirymu cydsyniad

• cadw golwg ar waith a ganiatawyd wrth iddo gael ei wneud ac ar ôl ei gwblhau, i wneud yn siŵr y cydymffurfir â’r amodau

• archwilio a chofnodi unrhyw beth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol y cafwyd hyd iddo wrth wneud y gwaith a ganiatawyd.

Gyda chaniatâd y perchennog a’r meddiannydd, caiff person sydd wedi’i awdurdodi gan Weinidogion Cymru godi a chynnal byrddau gwybodaeth a physt marcio ar neu wrth safle’r heneb gofrestredig i’w diogelu rhag difrod damweiniol neu fwriadol.