Henebion Cofrestredig
Hysbysiadau statudol ymgynghori heneb gofrestredig
Yn y canllaw hwn
1. Hysbysiadau ymgynghori
Hysbysiadau ymgynghori heneb gofrestredig
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pherchnogion, meddianwyr a phobl eraill os ydynt yn bwriadu cofrestru heneb, gwneud newid perthnasol i ardal gofrestredig neu dynnu heneb oddi ar y gofrestr. Rhaid i fanylion pob hysbysiad ymgynghori gael eu cyhoeddi'n electronig.
Gwarchodaeth interim — henebion cofrestredig
Bydd heneb yr ystyrir ei chofrestru neu ychwanegiad arfaethedig at ardal gofrestredig yn cael eu gwarchod yn y cyfnod interim hwnnw yn union fel pe baent wedi'u cofrestru eisoes. Bydd y warchodaeth interim yn parhau o ddechrau’r cyfnod ymgynghori tan i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad ar y dynodiad.
Hysbysiadau ymgynghori cyfredol heneb gofrestredig
Cyfiernod: GM641
New yr heneb: Carreg gyda marciau cwpan Pant Ffos-yr-hebog
Cymuned ac awdwdod unedol: Cwm Darran, Caerfilli
Ymgynhoriad: 14 Tachwedd – 12 Rhagfyr 2025
Cyfiernod: GM308 (Gwelliant)
New yr heneb: Gwrthglawdd 1080m i’r gogledd-gogledd-orllewin o Fforest Newydd
Cymuned ac awdwdod unedol: Llangefelach, Abertawe
Ymgynhoriad: 14 Tachwedd – 12 Rhagfyr 2025
Cyfeirnod: MM227 (Gwelliant)
Enw'r heneb: Olion cloddio haearn a glo ym Mhen-ffordd-goch
Cymuned ac awdwrdod unedol: Llanfoist Fawr a Blaenafon, Sir Fynwy a Torfaen
Ymgynghoriad: 16 Rhagfyr 2025 – 13 Ionawr 2026
Cyfeirnod: MG244 (Eithrio o'r Gofrestr)
Enw'r heneb: Caer Rhufeinig Caersws: Amddiffynfeydd y Cornel De-Orllewinol
Cymuned ac awdwrdod unedol: Caersws, Powys
Ymgynghoriad: 16 Rhagfyr 2025 – 13 Ionawr 2026
Cyfiernod: ME046 (Gwelliant)
New yr heneb: Clystyrau Cytiau I’r dde o Bwlch-y-ffordd
Cymuned ac awdwdod unedol: Ganllwyd, Gwynedd
Ymgynhoriad: 6 Ionawr 2026 – 3 Chwefror 2026
Gallwch wneud cais am gopi o hysbysiad ymgynghori. Dylech anfon unrhyw gais, ynghyd â holl fanylion yr hysbysiad sydd o ddiddordeb ichi i henebionCofrestredig@llyw.cymru
2. Hysbysiadau gorfodi mewn perthynas
Mae adran 35 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig er mwyn atal gwaith na chafodd ei awdurdodi ar heneb gofrestredig a gorchymyn bod gwaith yn cael ei wneud i atgyweirio neu leihau'r difrod sy'n deillio o hynny. Mae’n ofynnol hefyd o dan y Ddeddf i fanylion sy'n gysylltiedig â hysbysiad gorfodi gael eu cyhoeddi’n electronig.
Hysbysiadau gorfodi heneb gofrestredig
| Cyfeirnod: |
| Enw'r heneb: |
| Cymuned ac awdurdod unedol: |
| Dyddiad yr hysbysiad: |
Gallwch wneud cais am gopi o hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig. Dylech anfon unrhyw gais, ynghyd â holl fanylion yr hysbysiad sydd o ddiddordeb ichi i henebionCofrestredig@llyw.cymru