Henebion Cofrestredig
Hysbysiadau statudol ymgynghori heneb gofrestredig
Yn y canllaw hwn
1. Hysbysiadau ymgynghori
Hysbysiadau ymgynghori heneb gofrestredig
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pherchenogion, meddianwyr a phobl eraill os ydynt yn bwriadu cofrestru heneb, gwneud newid perthnasol i ardal gofrestredig neu dynnu heneb oddi ar y gofrestr. Rhaid i fanylion pob hysbysiad ymgynghori gael eu cyhoeddi'n electronig.
Gwarchodaeth interim — henebion cofrestredig
Bydd heneb yr ystyrir ei chofrestru neu ychwanegiad arfaethedig at ardal gofrestredig yn cael eu gwarchod yn y cyfnod interim hwnnw yn union fel pe baent wedi'u cofrestru eisoes o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979. Bydd y gwarchod interim yn parhau o ddechrau’r cyfnod ymgynghori tan i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad ar y dynodiad.
Hysbysiadau ymgynghori cyfredol heneb gofrestredig
Cyfeirnod: CN419
Enw'r heneb: Chwarel Pen Y Bryn a thipiau
Cymuned ac awdwrdod unedol: Llanllyfni, Gwynedd
Ymgynghoriad: 21 Chwefror 2023 – 21 Mawrth 2023
Cyfeirnod: MM189
Enw'r heneb: Perianwaith Haearn Garnddrys (safle o) a Tramffordd cyfngos
Cymuned ac awdwrdod unedol: Llan-ffwyst, Sir Fynwy
Ymgynghoriad: 22 Chwrefor - 22 Mawrth 2023
Cyfeirnod: GM637
Enw'r heneb: Ceifyddyd creigiau cynhanes 50m i'r de-orllwin o Ta'r-waun-uchaf, Llanfabon
Cymuned ac awdwrdod unedol: Nelson, Caerffyli
Ymgynghoriad: 8 Mawrth 2023 - 5 Ebrill 2023
Gallwch wneud cais am gopi o hysbysiad ymgynghori. Dylech anfon unrhyw gais, ynghyd â holl fanylion yr hysbysiad sydd o ddiddordeb ichi i flwch negeseuon e-bost Cadw.
2. Hysbysiadau gorfodi mewn perthynas
Mae adran 12 o Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig er mwyn atal gwaith na chafodd ei awdurdodi ar heneb gofrestredig. Gallant hefyd orchymyn bod gwaith yn cael ei wneud i atgyweirio neu leihau'r difrod sy'n ganlyniad i'r gwaith nas awdurdodwyd. Mae hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf i fanylion sy'n gysylltiedig â hysbysiad gorfodi gael eu cyhoeddi'n electronig.
Hysbysiadau gorfodi heneb gofrestredig
Cyfeirnod: |
Enw'r heneb: |
Cymuned ac awdurdod unedol: |
Dyddiad yr hysbysiad: |
Gallwch wneud cais am gopi o hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig. Dylech anfon unrhyw gais, ynghyd â holl fanylion yr hysbysiad sydd o ddiddordeb ichi i flwch negeseuon e-bost Cadw.