Henebion Cofrestredig
Synhwyrydd metel
Yn y canllaw hwn
1. Defnyddio synhwyrydd metel
A siarad yn gyffredinol, nid yw synwyryddion metel yn addas i’w defnyddio ar henebion cofrestredig. Hynny am fod y dechneg yn gallu achosi difrod mawr trwy balu tystiolaeth archaeolegol i godi arteffactau a mynd â’r darganfyddiadau hynny o’u cyd-destun archaeolegol. Mae pob darganfyddiad sy’n gysylltiedig â heneb gofrestredig yn cyfrannu’n uniongyrchol at werth y dystiolaeth amdani.
Felly, bydd cymryd y darganfyddiadau yn effeithio’n uniongyrchol ar arwyddocâd yr heneb. O’r herwydd, mae’n drosedd defnyddio synhwyrydd metel ar henebion cofrestredig heb gael cydsyniad ysgrifenedig Cadw ymlaen llaw. Mae hynny’n wir am ddefnyddio synhwyrydd metel ar y tir ac o dan ddŵr.
Rhaid ichi ofyn cydsyniad perchennog y tir cyn defnyddio synhwyrydd metel ar ei eiddo. Bydd defnyddwyr synwyryddion metel sy’n dilyn yr arferion gorau yn osgoi safleoedd gwarchodedig a gweithgareddau allai difrodi mannau sensitif. Os bydd rhywun yn gofyn ichi am ganiatâd i ddefnyddio synhwyrydd metel ar eich heneb gofrestredig, dylech esbonio fod y safle wedi’i gofrestru a bod angen gofyn i Cadw am gydsyniad. Os gwelwch rywun yn defnyddio synhwyrydd metel ar eich heneb gofrestredig heb eich cydsyniad, cysylltwch â’r heddlu a Cadw.
Bydd angen ichi ofyn i Cadw am gydsyniad adran 60 i ddefnyddio synhwyrydd metel ar heneb gofrestredig.
2. Cydsyniad
Gellir rhoi caniatâd ar ffurf cydsyniad adran 60. Fodd bynnag, ni fydd cydsyniad fel arfer yn cael ei roi ar gyfer defnyddio canfodwyr metel oni bai bod yr arolwg yn rhan o gloddiad archeolegol sydd â chydsyniad neu fel rhan o strategaeth ymchwil ehangach, a bod camau’n cael eu cymryd i ddiogelu a chofnodi darganfyddiadau.
Rhaid i geisiadau adran 60 gynnwys:
- manylion methodoleg yr arolwg, gan gynnwys dyfnder unrhyw aflonyddu
- plan yn dangos lleoliad yr arolwg
- cadarnhad eich bod wedi cael cydsyniad y perchennog i gynnal yr arolwg.
Dylai ceisiadau i ddefnyddio synhwyrydd metel hefyd gynnwys: - strategaeth ymchwil fanwl sy’n disgrifio sut y bydd arolwg sy’n defnyddio synhwyrydd metel yn cyfrannu at amcanion ehangach y prosiect ymchwil48
- sut y byddwch chi’n diogelu ac yn dadansoddi unrhyw ddarganfyddiadau, a’ch cynigion ar gyfer eu harchifo a’u cyhoeddi.
Gallwch e-bostio’ch ceisiadau am gydsyniad adran 60 at henebionCofrestredig@llyw.cymru
Bydd arolygwyr henebion Cadw yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion cyn rhoi’r cydsyniad.
Bydd amodau’n cael eu gosod megis cyflwyno adroddiadi’ch cofnod amgylchedd hanesyddol lleol ac i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a threfnu bod y darganfyddiadau’n cael eu cadw a’u cofnodi.