Skip to main content

Mae'r rhan fwyaf o safleoedd Cadw heb staff, yn rhad ac am ddim, ac yn agored i ymweld â nhw.

Gall safleoedd heb staff fod yn llefydd gwych i'w harchwilio. Beth am ddarganfod adfeilion castell canoloesol neu abaty hynafol? Efallai y bydd olion anheddiad Rhufeinig yn tanio eich diddordeb.

I ddod o hyd i safle i ymweld ag ef sy’n agos atoch chi, edrychwch ar ein tudalen I ble hoffech chi fynd?. Mae'r dudalen hon yn rhestr o'r holl henebion rydym yn gofalu amdanyn nhw, pob un o'r 130!

Defnyddiwch ein hadnoddau creadigol i ysbrydoli eich taith o ddarganfod...

Os ydych yn bwriadu ymweld ag un o'n safleoedd sydd heb staff, cofiwch ychydig o bethau cyn eich ymweliad:

  • sicrhewch eich bod yn deall y cyfyngiadau o ran mynediad, ystafell ymolchi, arlwyo a signal ffôn ar y safle yr ydych am ymweld ag ef. Byddwch yn ymwybodol hefyd fod y safleoedd hyn yn agored i'r elfennau a chamddefnydd gan eraill — ni allwn bob amser reoli pwy sy'n ymweld na'r hyn y maen nhw’n ei adael ar ôl. Efallai y bydd eich swyddog cymorth cyntaf am ymchwilio i'r ddarpariaeth iechyd yn yr ardal
  • manteisiwch ar ein hadnoddau ar gyfer eich taith hunandywys. Ystyriwch gyflwyno rhywun cymwys sydd ag arbenigedd lleol neu bwnc — tywysydd taith achrededig efallai — e.e. tywysydd bathodyn gwyrdd/glas WOTGA, neu debyg, os yw cyllidebau'n caniatáu hynny. Byddai angen i chi wirio bod ganddyn nhw’r cliriadau cywir i weithio gyda'ch myfyrwyr
  • bydd angen i chi staffio eich ymweliad gan ddefnyddio’r un cymarebau, neu gymarebau uwch, â'r rhai sydd eu hangen arnom ar gyfer ein safleoedd sydd wedi'u staffio (gweler telerau ac amodau), a chael swyddogion cymorth cyntaf wrth law (gyda rhifau meddygon ac ysbytai lleol). 
  • bydd angen i chi gynnal eich asesiad risg eich hun ac rydym yn eich annog i ymweld â'r safle i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer eich ymweliad grŵp.