Priordy a Chroes Penmon a Ffynnon Seiriol
Tair nodwedd ar un safle sanctaidd pwysig
Ymestynna hanes Penmon yn ôl i’r 6ed ganrif, pan sefydlwyd mynachlog yma gan Sant Seiriol. Credir bod y ffynnon sanctaidd (sydd â phriodweddau iachau honedig) sy’n dwyn ei enw yn gysylltiedig â’r cyfnod hwn, er bod y ‘gell’ sy’n gartref iddi wedi’i hadeiladu’n llawer diweddarach. Mae olion y priordy sy’n sefyll heddiw yn dyddio i raddau helaeth o’r 13eg ganrif, pan ddaeth yn rhan o’r urdd Awstinaidd.
Y tu mewn i’r eglwys, sy’n dal i wasanaethu’r plwyf heddiw, saif croes drawiadol. Yn dyddio o’r 10fed ganrif, mae ei choes wedi’i cherfio â phatrymau dyrys o rwyllwaith a phlethi.
Mae hefyd yn werth ymweld â Cholomendy Penmon o’r 15fed ganrif, sydd wrth ymyl y priordy.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
Ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm
|
Edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr Mae Croes Penmon o fewn yr eglwys a gellir ei gweld pan fydd yr eglwys ar agor. |
---|---|
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post LL58 8RW