Colomendy Penmon
Arolwg
Blwch adar ar raddfa gwbl aruthrol
Ar yr olwg gyntaf, mae’n anodd credu bod y strwythur enfawr hwn wedi’i adeiladu’n gartref i golomennod. Wedi’i adeiladu tua 1600 gan y gwleidydd dylanwadol o Gymro, Syr Richard Bulkeley, roedd to cromennog enfawr y colomendy yn darparu lle i hyd at 1,000 o nythod, ac roedd yn ffynhonnell bwysig o gig ac wyau.
Y tu mewn i’r gromen mae piler carreg tua 12 troedfedd/37m o uchder, a fuasai’n cynnal ysgol gylchdro a ddefnyddid i gyrraedd y nythod ar hyd y waliau.
Bendithiwyd Penmon yn arbennig â safleoedd hanesyddol - cofiwch ymweld hefyd â Phriordy a Chroes Penmon a Ffynnon Seiriol.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Noder: Rheolir y maes parcio talu ac arddangos gan drydydd parti ac nid oes gan Cadw reolaeth dros weithredu’r tariffau na’r hyd parcio.
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Cod post LL58 8RW