Abaty Talyllychau
Sgerbwd o olion anheddiad crefyddol unigryw
Sylfaenwyd Talyllychau yn y 1180au gan Rhys ap Gruffydd (‘Arglwydd Rhys’, llywodraethwr brodorol teyrnas Deheubarth de Cymru) i fynachod yr urdd Bremonstratensaidd. Hwn oedd yr abaty cyntaf a’r unig abaty yng Nghymru i’r mynachod Premonstratensaidd, a oedd hefyd yn cael eu galw’n ‘Ganonau Gwynion’ oherwydd lliw eu habid.
Tŵr yr eglwys, sy’n sefyll bron i’w lawn uchder, yw’r nodwedd fwyaf trawiadol ar adfail yr abaty, na fwynhaodd byth gyfoeth a llwyddiant yr aneddiadau crefyddol Sistersaidd – a oedd yn eithaf helaeth ledled Cymru – a’i hysbrydolodd. Yn sgil diffyg cyllid, ni chwblhawyd yr eglwys erioed, er bod amlinelliad ei sylfeini’n arwydd o raddfa ac uchelgais ei dyluniad. Saif yr adfeilion mewn safle delfrydol wrth ymyl dau lyn Talyllychau.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am–4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
---|---|
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|