Olion darniog – ond atgofus – castell a loriwyd gan wrthdaro
Sylfaenwyd Dryslwyn yn y 13eg ganrif ar fryn arunig yn nyffryn gwyrdd Tywi, ac arferai fod yn ganolfan bwysig yn nheyrnas hynafol y Deheubarth yn ne Cymru.
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei hanes cynnar, ond ym 1287 roedd yno wrthdaro sylweddol rhwng lluoedd Cymru a Lloegr. Mewn ymateb i wrthryfel gan y Cymro o arglwydd Rhys ap Maredudd, anfonwyd 11,000 o filwyr Lloegr i warchae ar y castell. Parhaodd y gwrthdaro bythefnos wrth i beiriannau gwarchae a thanseilwyr (milwyr â sgiliau peirianneg, gan gynnwys twnelu) naddu amddiffynfeydd y gaer yn ddyfal. Yn y pen draw, llwyddodd yr ymosodwyr i dynnu darn mawr o’r waliau i lawr a chwympodd y castell i ddwylo brenin Lloegr.
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mae maes parcio cyhoeddus gyferbyn â'r brif fynedfa gyda thua 15 o leoedd, din bae parcio penodol i bobl anabl.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.