Castell Dinefwr
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Canolfan teyrnas Deheubarth y bu mawr ymladd drosti
Yn sefyll mewn man aruchel ar ben bryn uwchlaw Dyffryn Tywi, mae Castell Dinefwr yn hawlio safle llawn mor arwyddocaol yn hanes Cymru. Yn y 12fed ganrif, roedd y gaer ym meddiant yr Arglwydd Rhys, llywodraethwr teyrnas hynafol Deheubarth yn ne Cymru. Yn ystod ei deyrnasiad cafwyd cyfnod prin o heddwch a sefydlogrwydd a esgorodd ar ddiwylliant, cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg yn blodeuo.
Yn anffodus, ni fyddai’n para. Ar ôl i Rhys farw, cafwyd gwrthdaro dros olyniaeth ac felly blynyddoedd cythryblus wrth i dywysogion Cymru ymladd ymysg ei gilydd ac yn erbyn y Saeson. Yn y pen draw, syrthiodd Dinefwr i reolaeth y Saeson ym 1287 ac yno a fu am ganrifoedd, er gwaethaf ymgais Owain Glyndŵr at ei gipio’n ôl yn ystod ei wrthryfel ym 1403.
Prisiau
Cyfleusterau
Mae maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 11am–3pm | Sad-Sul 11am–5pm.
Caiff aelodau Cadw barcio am ddim drwy ddangos cerdyn aelodaeth dilys. Mae ffioedd mynediad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol i rai nad ydynt yn aelodau. Y pris i rai nad ydynt yn Aelod o Cadw / yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw £5.
Mae rhestr o gostau cyfredol ar gael yma: www.nationaltrust.org.uk/dinefwr
Sylwch: nid oes mynediad ar gael i gerbydau nac i’r anabl i Gastell Dinefwr ar hyn o bryd.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.