Plas Mawr
Tŷ tref ceinaf Prydain o oes aur Elisabeth
Ni fu erioed gwell enw ar adeilad. Yn anad dim, Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd ceinaf sydd wedi goroesi yn unrhyw le ym Mhrydain.
Roedd hon yn oes aur, a masnachwyr cyfoethog dros ben yn buddsoddi mewn plastai, gosodiadau drud ac adloniant moethus. Roedd Robert Wynn, trydydd mab tirfeddiannwr lleol, am gael rhan yn hyn oll.
Daeth i wasanaethu diplomyddion Tuduraidd a theithio i lysoedd brenhinol mwyaf ysblennydd Ewrop. Wedi gwneud ei ffortiwn, prynodd blasty yng Nghonwy am £200 a rhwng 1576 a 1585 bu wrthi’n ei droi’n ddathliad o’i fywyd, yr oes a chyfoeth.
Mae tu blaen y tŷ wedi’i guddio’n gynnil i lawr lôn gul serth. Felly dim ond awgrymu’r mawredd y tu mewn y mae’r porthdy ar y Stryd Fawr, wrth ichi ddringo cyfres o derasau i archwilio 17 o ystafelloedd trawiadol.
Ni fydd rhaid ichi edrych ymhell i gael gwybod am y sawl a’i creodd. Gellir gweld llythrennau Wynn - R.W. - dros waith plastr addurnol Plas Mawr i gyd, wedi’i beintio’n llachar.
Dros y canrifoedd, byddai’n gwrt, yn ysgol a hyd yn oed yn oriel gelf. Efallai mai’r defnydd parhaus hwn a’i galluogodd i aros mor wyrthiol o gyflawn. Mae pedair blynedd o waith adfer llafurus wedi ail-greu’r ardd Elisabethaidd ac wedi dychwelyd yr holl ystafelloedd golau i’w gogoniant gwreiddiol.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image
Expand image
Expand image
Expand image
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Mawrth - 30th Medi | 9.30am-5pm |
|---|---|
| 1st Hydref - 2nd Tachwedd | 9.30am-4pm |
| 3rd Tachwedd - 28th Chwefror | Ar gau |
|
Mynediad olaf 45 munud cyn cau |
|
Prisiau
| Categori | Un lleoliad Price | Dau leoliad Price |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.00
|
£15.70
|
| Teulu* |
£32.00
|
£50.20
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
£10.90
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
£14.10
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
||
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae'r maes parcio agosaf sy'n faes parcio talu ac arddangos yng Ngerddi'r Ficerdy ar Rose Hill St.
Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar y Stryd Fawr am gyfnod cyfyngedig. Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anab.
Mynediad i bobl anabl
Lleoliad canol y dref. Mae llawer o risiau drwy'r eiddo. Dim ond ar lawr gwaelod y prif dŷ y ceir mynediad i ddefnyddwyr cadwir olwyn.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Taith sain
Llwybr digidol
Lleoliad canol y dref. Mae llawer o risiau drwy'r eiddo. Dim ond ar lawr gwaelod y prif dŷ y ceir mynediad i ddefnyddwyr cadwir olwyn.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Gardd
Gardd ar y safle.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyflwyniad fideo
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Archebwch eich ymweliadau addysg hunan-dywysedig am ddim
Edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i helpu gyda'ch antur teithio amser!
Iechyd a Diogelwch
Wedi'i leoli ar y brif stryd yn nhref Conwy, nid oes parcio dynodedig. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio mannau parcio presennol y cyngor sydd ar gael ar draws y dref. Mae'r maes parcio yng Nghastell Conwy dim ond ychydig bellter i ffwrdd.
Mae'r tŷ wedi'i leoli ar lefelau uchaf y safle; Mae yna nifer o risiau carreg modern y mae'n rhaid eu dringo cyn cyrraedd prif fynedfa'r tŷ.
Wrth archwilio'r tŷ, byddwch yn dod ar draws drysau isel a throthwyon uwch nag arfer ar y llawr a all achosi perygl o ran baglu; byddwch yn ymwybodol o ble rydych chi'n camu. Mae grisiau yn rhoi mynediad i lefelau uchaf y tŷ, mae'r rhain yn fwy modern ac yn hawdd eu dringo, er ein bod yn dal i annog y defnydd o reiliau llaw lle maen nhw ar gael.
Os ydych am fynd i'r tŵr, bydd angen i chi ddefnyddio'r set fawr o risiau pren 'math ysgol' a fydd yn mynd â chi i'r tŵr. Rydym yn annog eich annog i ddringo hwn fel y byddech yn dringo ysgol arferol, er mwyn atal llithro.
Mae'r tŷ yn darparu lefelau o olau ond efallai bydd y golau’n wan yn ystod y gaeaf, felly rhowch amser i'ch llygaid addasu.
Gall lloriau pren fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb, rydym wedi gosod matiau wrth y mynedfeydd i gadw'r lloriau’n sych.
Mae'r ardd wedi'i rhannu'n ddwy lefel, yr haen uchaf yw man uchaf y safle a bydd angen defnyddio grisiau.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Toeau Isel
Wyneb llithrig neu anwastad
Camau serth ac anwastad
Cerrig yn disgyn
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
High St, Conwy LL32 8DE
Symudol Plas Mawr: 07392277592
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01492 573605
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost PlasMawr@llyw.cymru
Cod post LL32 8DE
what3words: ///steilio.prin.derbyniaf
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50